Lloergan yn llwyddo i agor Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

Os nad oeddech yn agos at deledu neithiwr, dyma gip ar sioe agoriadol yr Eisteddfod, Lloergan.

gan Ifan Meredith

Wedi problem dechnegol a olygodd ail-ddechrau’r sioe wedi cwta 15 munud, cafwyd noson hwylus iawn a chyflwynwyd golwg o beth allai 2050 edrych fel.

Gosodwyd y stori yn 2050 a chraidd y stori oedd mai merch o Ystrad Fflur oedd fenyw Cymreig gyntaf i lanio ar y lleuad. Esblygodd y stori wrth i ni ddeall mai clôn o Lleuwen sydd wedi dod nôl i’w theulu yng nghefn gwlad Ceredigion a bod clôn arall wedi aros ar y lleuad gan greu clôn o’r teulu cyfan erbyn y diwedd. Cafwyd diwedd llawn gobaith a hiwmor wrth i’r bachgen, Rhys siarad â’i glôn ar y lleuad.

Hyfryd oedd gweld cymaint o bobl yr ardal yn canu ac yn symud yn y côr wedi eu coluro’n hardd er mwyn cyfleu cymeriadau’r dyfodol.

Felly, wedi gweld sioe o’r dyfodol, mae’n codi sawl cwestiwn a bydd yna fywyd yn bosib ar y lleuad ac a fydd modd i ddynol-ryw sefydlu yno?