Llongyfarch disgyblion Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol

Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn parhau i gyrraedd safonau uchel.

gan Siwan Richards

Mae 98.4% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A* i E, gyda 42.1% yn ennill graddau A* – A. 

Dyma ffigurau cymharol eleni. Nid yw’r canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru na chanlyniadau unrhyw fwrdd arholi arall heblaw CBAC:

Gradd A* – A

Ceredigion: 42.1%

Cymru: 40.9%

Gradd A* – B

Ceredigion: 70.2%

Cymru: 52.0%

Gradd A* – C

Ceredigion: 89.2%

Cymru: 76.3%

Gradd A* – E

Ceredigion: 98.4%

Cymru: 97.6%

Dywedodd Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr: “Llongyfarchiadau i’n holl ddisgyblion ar eu canlyniadau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Yn dilyn heriau’r pandemig a’r ffaith nad oedd gan y garfan hon ddim profiad o sefyll arholiadau allanol o’r blaen, rydym yn arbennig o falch o gyflawniadau ein disgyblion eleni. Fel ysgol, hoffem ddiolch i’r disgyblion, y rhieni a’r athrawon am eu cymorth a’u cefnogaeth barhaus. Dymunwn bob llwyddiant i’n disgyblion Blwyddyn 13 wrth iddynt nawr gychwyn ar bennod nesaf eu bywydau, boed hynny yn y Brifysgol, coleg neu fyd gwaith.”

Lluniau: Disgyblion Ysgol Bro Pedr yn derbyn eu canlyniadau (Lluniau o Facebook Ysgol Bro Pedr)