Llwyddiant i Fro Pedr yng ngwobrau’r Siarter Iaith

Cyflwyno Cam Aur ac Arian i Ysgol Bro Pedr.

gan Ifan Meredith
WhatsApp-Image-2022-1

Cyflwyno’r wobr i’r Pwyllgor Cymreictod (Rhai yn absennol)

2

Pwyllgor Cymreictod llawn Ysgol Bro Pedr

Ar ddydd Mercher, y 6ed o Orffennaf ymwelodd Anwen Eleri a Menna Jones ag Ysgol Bro Pedr er mwyn dilysu safonau’r siarter iaith i’r ysgol.

Yn dilyn hyn, sector Uwchradd Bro Pedr yw’r ysgol Uwchradd gyntaf yng Ngheredigion i gyrraedd Cam Arian y Siarter Iaith a’r sector Cynradd y trydydd yn y sir i gyrraedd y Cam Aur.

Mae’r gweithredoedd i dderbyn y safonau yma ac i hybu’r iaith Gymraeg yn cynnwys:

  • troi’r Cyfnod Sylfaen yn gwbl Gymraeg.
  • ail-sefydlu Clwb Cymraeg yn yr Uwchradd.
  • gwrando ar lais y disgybl.
  • sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle blaenllaw yn yr ysgol.
  • creu heriau amrywiol megis Gwyl Ddewi ac Heriau’r Hanner.
  • creu a chyfrannu at fideos megid Shwmae Su’mae a Neges Heddwch ac Ewyllys da.
  • syfydlu cyfrif Instagram.
  • gwerthu rhosys ar ddiwrnod Santes Dwynwen.
  • darparu sticeri am siarad Cymraeg.
  • codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth a bandiau Cymraeg.
  • dathlu’n Cymreictod.
  • Mwy yn cymryd rhan a chystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Diolch yn fawr i’r Pwyllgor Cymreictod gweithgar, y disgyblion a’r staff sydd wedi bod yn helpu i gyrraedd y safonau uchel yma – gwaith tîm gwych.

Wrth edrych ymlaen at flwyddyn nesaf, edrycha’r Pwyllgor ymlaen at sefydlu system sain er mwyn chwarae cerddoriaeth Cymraeg yn y coridorau a’r ffreutur. Hefyd, mae aelodau’r Pwyllgor yn yr Uwchradd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i hybu’r Gymraeg yn y Cynradd.