Llyfryn cymorth Cymraeg i rieni a gwarcheidwaid sy’n dysgu Cymraeg wedi’i lansio

Y Siarter Iaith yn cefnogi’r disgyblion a rhieni i ddysgu

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen
Lansiad-Llyfryn-Cymraeg-Rieni
Dysgwr-Cymraeg-Jessica
llyfryn-cymraeg-cywir

Lansiwyd y llyfryn yn Ysgol Gynradd Comins Coch, lle mae grŵp o rieni sydd â phlant yn yr ysgol eisoes yn mynychu gwersi Cymraeg o dan arweiniad Rhiannon Taylor, Tiwtor Cymraeg i Rieni gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg. Dywedodd Jessica Longworth, rhiant sy’n derbyn gwersi Cymraeg: “Dwi’n hoffi dysgu Cymraeg achos mae’r gwersi yn llawer o hwyl. Mae fy mab yn gallu ymarfer siarad Cymraeg gyda fi adref.”

Dywedodd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Y gobaith yw y bydd rhieni a gwarcheidwaid yn defnyddio’r llyfryn defnyddiol a diddorol hwn ac yn cael eu hysbrydoli i ddysgu am y diwylliant a dechrau dysgu Cymraeg.”

Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg: “Mae timoedd Cefnogi’r Gymraeg wedi gwneud gwaith gwych gyda’r llyfryn yma. Mae ganddo’r holl eiriau ac ymadroddion defnyddiol fydd yn cefnogi rhieni a gwarcheidwaid a’u plant yn yr ysgol gynradd. Rwy’n gobeithio bod y llyfryn yn mynd i roi hyder i rieni a gwarcheidwaid i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant adre, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn ogystal ag yn yr ysgol.”

Mae gwersi Cymraeg ar gael mewn amrywiaeth o ysgolion o amgylch y sir. Os hoffech gael fwy o wybodaeth am y cyrsiau hyn, cysylltwch ag Anwen ar anwen.eleribowen@ceredigion.gov.uk

Copiau ar gael ar ddechrau mis Rhagfyr i bob ysgol.