Llywydd Undeb Myfyrwyr Llambed yn priodi â’i enaid hoff cytûn ar ôl darganfod cariad ar gampws Llambed

Dywed Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei fod wedi priodi â’i enaid hoff cytûn ar ôl dod o hyd i’w gariad ar Gampws y Brifysgol yn Llambed.

gan Lowri Thomas

Daeth James Barrow, sy’n wreiddiol o Swydd Gaerlŷr i Lambed am y tro cyntaf yn fyfyriwr i astudio BA mewn Crefydd, Diwinyddiaeth ac Athroniaeth. Roedd wedi ymweld â’r campws ar benwythnos profiad myfyrwyr, a dywedodd ei fod wedi syrthio mewn cariad â’r dref fach a’r wlad o’i amgylch ar unwaith.

Penderfynodd ei wraig, Sofie Keddie-Barrow, sy’n wreiddiol o Swydd Gaergrawnt, astudio BA mewn Hanes yr Hen Fyd gyda Diwylliant yr Hen Aifft ar ôl mynychu diwrnod i’w groesawu ar y campws. Dywedodd fod y staff a’r myfyrwyr mor garedig, a bod y campws yn amgylchedd hamddenol iddi astudio ynddo.

Wrth astudio yn Llambed, syrthiodd James a Sofie mewn cariad â’r dref a’r campws ar unwaith. Meddai Sofie: “Mae’r holl staff yn ceisio eich cefnogi drwy ddod i adnabod pwy ydych chi. Oherwydd hyn, rwy’n teimlo y gallaf ymlacio mwy yma a dod o hyd i bwy ydw i fel person.”

Meddai James: “Gan fod y campws yn gymharol fach mae’n golygu ei fod yn un agos. Mae’n  gymuned glos lle mae pawb yn adnabod pawb ac yn helpu pawb os oes ei angen arnynt. Mae’n fan lle gallwch deimlo eich bod yn perthyn bron cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd. ”

Cyfarfu James a Sofie mewn parti pen-blwydd ffrind. Mae James yn cofio:

“Fe wnaethon ni gyfarfod wrth y bar a dyma bethau’n symud o’r fan honno. Bu’n rhaid i mi roi llewys fy siwt i arbed diod rhag arllwys ar Sofie ac roedd hi’n credu fy mod i’n ŵr bonheddig o’r funud honno.”

Wrth i’w perthynas ddatblygu, dyweddïodd James a Sofie a phenderfynu priodi yng ngwesty’r Falcondale yn Llambed fis Tachwedd diwethaf. Meddai James:  “Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n well priodi lle’r oedden ni wedi cwympo mewn cariad. Er cymaint o gariad sydd gen i at fy nhref enedigol yn Swydd Gaerlŷr, nid dyna ble syrthies i mewn cariad â Sofie. Yn syml, roedd yn rhaid i ni briodi yn Llambed. ”

Ychwanegodd Sofie: “Roeddem ni am briodi yn y dref lle wnaethom gyfarfod. Rydym wedi ymgartrefu yn Llambed, ac mae’r dref yn teimlo fel ein cartref bellach, felly roedd yn gwneud synnwyr i ni briodi yno. ”

Pan ofynnwyd i James pa un o’r ddau oedd y mwyaf rhamantus, meddai: “Ni ddylai perthynas dda fod yn 50/50, dylai fod yn 60/40 a’r ddau berson yn ceisio bod yn 60. Mae’n athroniaeth rydyn ni wedi’i dilyn ers blynyddoedd ac o ganlyniad rydyn ni’n dau mor rhamantus â’n gilydd. ”

Bellach mae Mr a Mrs Barrow yn galw Llambed yn gartref iddynt, a bu’r ddau yn dathlu eu Dydd Santes Dwynwen cyntaf gyda’i gilydd fel pâr priod.