Lori yn sownd ar bont Llanfair Clydogau

Drama yn y pentref wrth i gerbyd hir fethu mynd dros bont gul a throellog

gan Dan ac Aerwen
DE0DECB7-4CD5-4CF3-9297

Llun: Lesley Stevens

Rydym ni sy’n byw ar heol Llanfair yn gyfarwydd iawn â gweld a chwrdd â lorïau enfawr sydd yn dosbarthu nwyddau i ffermydd lleol neu i’r Siop.

Fodd bynnag rhai diwrnodau ‘nôl daeth lori fwy nag arfer lan mor bell â’r Siop a rhoi cynnig ar fynd dros bont Llanfair.

Ar ôl mynd beth o’r ffordd ar hyd y bont ar y 24ain o Fawrth, sylweddolodd y dreifyr nad oedd hyn yn bosib gan fod tro yn y bont a’i bod yn rhy gul.

Gyda llawer o gymorth oddi wrth bobol leol mi ddaeth i ben, mewn amser, â symud modfedd wrth fodfedd i ddod nôl, a throi y lori.

Dywedodd y dreifyr mai dyma’r lle gorau yn y wlad i hyn i ddigwydd iddo gan fod y wlad mor brydferth a phawb mor garedig iddo.