Mannau Croeso Cynnes ar agor yn Llambed

Mae Mannau Croeso Cynnes yn ymddangos ar draws Ceredigion, gyda dau yn Llambed.

gan Siwan Richards

Cadw’n gynnes, cadwch i siarad, cadwch i gymdeithasu

Mae’r argyfwng costau byw eisoes yn effeithio ar filiynau ledled y DU ac mae llawer o bobl yn dweud na fyddan nhw’n gallu troi eu gwres ymlaen y gaeaf hwn. Mae pobl sy’n gweithio gartref, rhieni â phlant ifanc, pobl anabl a phobl hŷn yn cael eu heffeithio’n arbennig ond mae llawer o Fannau Croeso Cynnes Ceredigion yn agored i bawb.

Mae Mannau Croeso Cynnes am ddim, yn gynnes, yn ddiogel ac yn groesawgar. Bydd pob gofod yn amrywio. Mae dau Fan Croeso Cynnes yn Llambed:

  • Camfan, 4 Ffordd y Porthmyn. Te a choffi drwy gydol y dydd. Amrywiaeth o weithgareddau a mynediad i’r rhyngrwyd. £1 am te/coffi anghyfyngedig. Dydd Llun i Dydd Gwener 09:30 – 15:30. Y cyswllt yw Louise Jenkins ar Louise.jenkins@poblgroup.co.uk.
  • Eglwys Methodistiaid Sant Thomas, Stryd Sant Thomas. Man croeso cynnes a chymdeithasol. Bore coffi, te, coffi a bisgedi. Bob Dydd Mawrth 10:00 – 12:00. Y cyswllt yw Revd Flis Randall ar ceredigionsuper@outlook.com.

Mae cronfa gyfyngedig o arian ar gael i gyfrannu at gost rhedeg Man Croeso Cynnes a gweithgareddau. Dywedodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr CAVO: “Rydym yn annog grwpiau cymunedol i gysylltu â ni yn CAVO i drafod sefydlu Man Croeso Cynnes ac unrhyw ofynion ariannu a allai fod gennych. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn gwneud yn siŵr nad ydym yn gwneud pobl yn agored i firws ffliw y gaeaf a Covid-19. Mae gennym gyngor a thempledi y gallwn eu rhannu i leihau’r risg hon. Rydym hefyd wedi bod yn siarad â Bwcabus sy’n awyddus i helpu i ddod â phobl i’r Mannau Croeso Cynnes, yn enwedig o’n hardaloedd mwy gwledig yn y Sir.”

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ardal i weithio, fel bod unigolion yn medru gweithio mewn swyddfa yno am y diwrnod tra bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ardal i weithio ynghyd ag ardal lle gall pobl gwrdd yn anffurfiol dros baned ar ei champws yn Llanbed. Bydd gan bob un wybodaeth i’w rhannu am gymorth a chyngor arall sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Rydym yn gweithio gyda CAVO i wneud i hyn lwyddo, ond sêr y stori hon yw pob un o’r grwpiau cymunedol ar draws Ceredigion sy’n cynnig Man Croeso Cynnes y gaeaf hwn. Rwy’n argymell bod pawb yn edrych ar y map rhyngweithiol sy’n dangos ble gallwch chi ddod o hyd i’ch Man Croeso Cynnes agosaf ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i bawb sy’n cefnogi’r ymgyrch hon.”

Mae’r wybodaeth i’w gweld ar dudalen Mannau Croeso Cynnes neu ffoniwch Gwasanaethau Cwsmer Clic a holwch am y Mannau Croeso ar 01545 570881 neu CAVO ar 01570 423232.

Llun: Man Croeso Cynnes Neuadd Rhydypennau sydd ar agor bob bore dydd Gwener rhwng 10yb a 12yp.