Marchnad Llanybydder ar ddiwrnod y Mart Ceffylau

Bwyd a chrefftiau lleol ym Maes Parcio’r Clwb Rygbi

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
34775086-5AC7-47E4-BAC3

Wyddech chi fod Marchnad Ffermwyr yn Llanybydder erbyn hyn?

Dywed Dinah Mulholland “Sefydlwyd Marchnad newydd Llanybydder, gan Gyngor Cymuned Llanybydder.  Roedd y farchnad gyntaf fis diwethaf – maen nhw’n cael eu cynnal ar ddydd Iau olaf o bob mis i gyd-fynd â’r Mart Ceffylau. Y nod yw cefnogi masnachwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau lleol gyda chyllid o’r Cynllun Deg Tref er mwyn adfywio trefi gwledig Sir Gaerfyrddin.”

Felly beth am alw draw i Faes Parcio’r Clwb Rygbi ddydd Iau rhwng 10yb a 2yp er mwyn gweld beth sydd yna?

Dyma fasnachwyr ddydd Iau:

CWTCHY TOTS CLOTHING – Handcrafted children’s clothing from tiny baby to 12 years old.

GWELLA – Cig oen ac eidion lleol wedi’i goginio a’i gwrio ffres o gegin y fferm.

ROASTED & TOASTED – te, coffi, brechdanau wedi’u tostio, bapiau brekwast

ABERNAINT FARM SHOP – Planhigion llysiau a blodau, wyau ffres

CARDIAU WENDY’S CARDS

ROOTS – Perlysiau coginio

WOWW – Dillad vintage

PANTYFOD – Paella llysieuol a rhostio mochyn

FYNNON FIBRES – Gwlan a Chnu

GATHER BY JULES – Planhigion tŷ, macrame, gwaith crosio

MADARCH WALES

Celf a Chrefft

STEP UP CYMRU – codi arian i chwaraeon cadair olwyn

TASTY LOCAL CAKES – cacennau a brownis heb glwten

Bydd te a choffi ar werth yn y Clwb Rygbi hefyd.