Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Gweithgareddau’r Fenter o Gwmann i Gynwyl Elfed.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

Sesiynau stori:

Mae sesiynau stori yn parhau mewn tair ardal sef Cwmann ar ddydd Iau yn Neuadd Sant Iago ar y 24ain a’r 31ain o Fawrth a’r 7fed o Ebrill, Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar y 21ain a 28ain o Fawrth a 4ydd o Ebrill ac yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât ar y 23ain a 30ain o Fawrth a’r 6ed o Ebrill. Bydd y sesiynau yn cychwyn am 10:30yb ym mhob lleoliad. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Paned a Sgwrs:

Yn ddiweddar mae’r Fenter wedi dod yn rhan o sesiynau Paned a Sgwrs yng Nghaffi’r Atom, pob ddydd Mawrth o 10-11yb. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Croeso i siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl. I gofrestru, cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru.

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant dysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.

Symud a sgìl:

Rydym yn gyffrous i gychwyn clwb newydd sbon wrth gamu mewn i 2022, sef symud a sgìl, dyma gyfle i blant rhwng 3-5 oed i ddatblygu sgiliau chwaraeon, cyfathrebu a chymysgu gyda phlant arall yn yr un grŵp oedran. Mae’r clwb yma yn cael ei gynnal yn Neuadd Llyfrgell Caerfyrddin pob nos Iau rhwng 4.15-5pm, i gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru

Fforwm Ieuenctid:

Bydd y Fenter ac Urdd Myrddin yn cynnal Fforwm Ieuenctid ar yr 8fed a 22ain o Fawrth, cyfle i bobl ifanc yr ardal canolbwyntio ar weithgareddau yn ardal Caerfyrddin. Lleoliad ac amser i’w gadarnhau. Cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i dderbyn mwy o wybodaeth.

Clwb Garddio:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Cered – Menter Iaith Ceredigion i drefnu Clwb Garddio yn Yr Ardd, Pont Tyweli. Pob ail ddydd Sadwrn y mis o 11yb-1yp. Cyfle i blannu a thyfu llysiau, ffrwythau a blodau. Croeso i bawb; oedolion a teuluoedd (angen oedolyn yn bresennol gyda phlant a pobl ifanc o dan 18 oed). I gofrestru: llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk neu ymholiad@mgsg.cymru

Wythnos ‘Gaeaf Llawn Lles’:

Cafodd y Fenter amserlen brysur dros hanner tymor Chwefror wrth gynnig wythnos llawn dop o weithgareddau llawn lles. Roedd yr wythnos yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer ystod eang o oedrannau.

Ar ddydd Llun fe gynhaliwyd ‘Llun Llesol’ oedd yn cynnwys gweithdy adweitheg ac yoga ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yn y Ganolfan Fagu, Caerfyrddin. Diolch yn fawr i Meleri o Hafan Holistaidd, Lowri, Myfanwy a Laura am redeg y gweithdai yn hwyliog i’r criw. Dywedodd mynychwr: ‘Fe wnes i ddod allan o’r sesiwn lot fwy relaxed, diwrnod buddiol dros ben gyda tips ar ffyrdd i ymarfer adref. Diolch i Menter am drefnu sesiwn fel hyn i pobl ifanc oedran ni’

Ar ddydd Mawrth trefnwyd ‘Mawrth Mwdlyd’ wrth ddychwelyd i Aspirations Outdoor Adventures gyda Richard a Nia am ddiwrnod o hwyl yn cynnwys sesiwn ar y cwrs rhwystr mwdlyd, saethyddiaeth a gemau pêl, croesawyd 24 plentyn rhwng blynyddoedd 3-6 i ymuno yn yr hwyl. Diolch am y croeso cynnes unwaith yn rhagor. Dyma sylwadau gan rieni’r mynychwyr: ‘Gwerthfawrogi cael y weithgaredd am ddim’. ‘The activities were really fun, challenging but supportive and gave my daughter an opportunity to do something she wouldn’t normally do. Whilst practicing Welsh!’

Ar ddydd Mercher fe gynhaliwyd diwrnod ‘Beicio Brechfa’ yng ngofal Huw, sydd wedi rhedeg sesiynau beicio i’r Fenter yn y gorffennol, cafodd y criw amser arbennig yn crwydro llwybrau Byrgwm ym Mrechfa. Y grŵp targed ar gyfer y weithgaredd hon oedd pobl ifanc blynyddoedd 6-9 sef trawsdoriad o’r cyfnod pontio. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Huw eto, diolch yn fawr i ti. Dyma sylwadau gan rieni’r mynychwyr: ‘Children both enjoyed immensely, they learnt a lot. Thank you for holding this session through the medium of Welsh as we don’t speak Welsh at home, it was a perfect activity over the holidays.’ ‘Diwrnod arbennig, plant wedi joio a Huw yn hyfforddwr bendigedig.’

Ar ddydd Iau wnaethom ni ymweld â’r Egin, Caerfyrddin i gynnal sesiwn ‘Stiwdio Steff’ gyda Steffan Rhys Williams a Llinos Jones, swyddog ymgysylltu â’r Egin i fynychu gweithdy blas ar gerddoriaeth ar gyfer blynyddoedd 5-6. Dyma sylwadau gan rieni’r mynychwyr: ‘Y plant wedi mwynhau’r sesiwn yn fawr iawn. Profiad wirioneddol wych.’ ‘Da iawn chi am drefnu gweithgareddau gwahanol cyffroes ar gyfer yr hanner tymor.’

Ar ddydd Gwener fe gydweithiom gyda Phartneriaeth Awyr Agored i gynnal diwrnod yn Paddlers, Llandysul ar gyfer ‘Gwener Gwlyb’, roedd y diwrnod yn cynnwys datblygu sgiliau ar y tir ac yn y dŵr ar gyfer pobl ifanc oed uwchradd. Roedd y tywydd ar ein hochor ni a chafwyd diwrnod arbennig, edrychwn ymlaen at gydweithio unwaith eto.  Dywedodd rhiant: ‘Fe wnaeth y mab joio mas draw. Mor braf i cael bod allan yn yr awyr agored a cymysgu gyda plant arall. Mi fyddai wedi bod adre trwy’r dydd heblaw am y gweithgaredd hyn oherwydd fy mod i a’r gwr yn gweithio, diolch’.

Ar ddydd Sadwrn y 5ed o Fawrth cynhaliwyd Sioe Barti Ddu gan gwmni Mewn Cymeriad yn Neuadd Bancyfelin, gyda’r digwyddiad yn llawn a’r neuadd dan i sang, rydym yn ddiolchgar i bawb ddathlodd Dydd Gŵyl Dewi gyda ni ac yn edrych ymlaen at drefnu sioe arall gyda Mewn Cymeriad cyn hir. Dyma sylwadau gan rieni’r mynychwyr: ‘Sioe grêt, 45 munud oedd yn ddigon ar gyfer fy mhlentyn i.’ ‘Wnaeth pawb fwynhau’r sesiwn a mi wnaethon ddysgu llawer hefyd. Roedd y plant yn cofio llawer o’r ffeithiau ac yn ail-adrodd yr hyn a ddysgwyd yn y car ar y ffordd ardref o’r sioe. Hyfryd iawn!’.

Hoffem ddiolch am y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr ar gyfer y digwyddiadau yma a gynhaliwyd am ddim wrth ddathlu #gaeafllawnlles.

#gaeafllawnlles #winterofwellbeing

Clwb Cinio Cynwyl:

Yn dilyn llwyddiant mewn cais i gyllido prosiect mae’r Fenter yn trefnu cyfres o Glybiau Cinio yn Neuadd Cynwyl Elfed. Mae’r clwb yn darparu pryd o fwyd 2 gwrs am ddim i bobl hŷn yr ardal. Mae’r clwb wedi rhedeg ym mis Ionawr a Chwefror a byddwn yn cwrdd ym mis Mawrth ac Ebrill eto sef 30.3.22 a 27.4.22. Mae’n angenrheidiol i chi gysylltu gydag Alma 07539 879 574 neu Gwyneth 07904 187 675 i sicrhau eich lle.

Sblash a Sbri:

Am y tro cyntaf erioed, mae’r Fenter yn rhedeg sesiynau Sblash a Sbri, sef sesiwn nofio a chanu ar gyfer rhieni/gwarchodwyr a phlant hyd at flwydd. Yn rhedeg am 5 wythnos yn cychwyn ar y 25ain o Ebrill am 1.30pm. £35 am 5 wythnos yng Nghanolfan Nofio Caerfyrddin. Nifer cyfyngedig, i gofrestru cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ymholiad@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda ni: 01239 712934