‘Menywod? – Beth!’ Y merched cyntaf yng Ngholeg Dewi Sant a Choleg Hyfforddi Y Drindod

Mae Adran Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi creu arddangosfa o gasgliadau arbennig newydd yn dathlu’r menywod cyntaf yng Ngholeg Dewi Sant a Choleg Hyfforddi Y Drindod fel rhan o ddathliadau’r daucanmlwyddiant.

gan Lowri Thomas

Mae’r daucanmlwyddiant yn dathlu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy’n nodi man geni addysg uwch yng Nghymru. O’r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl a datblygiad ein campysau, rydym wedi tyfu i fod yn Brifysgol sector deuol, aml-gampws gan ddarparu rhaglenni sy’n berthnasol yn alwedigaethol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Er y gall Coleg Dewi Sant Llambed ymfalchïo yn y ffaith mai dyma’r sefydliad cyntaf i ddyfarnu graddau yng Nghymru, yn anffodus, roedd ymhlith yr arafaf i groesawu myfyrwyr benywaidd. Agorodd Coleg Hyfforddi Y Drindod ei ddrysau i fenywod yn 1957, ond roedd Coleg Dewi Sant yn parhau’n sefydliad i ddynion yn unig nes 1965, 138 o flynyddoedd ers cofrestru ei fyfyrwyr gwrywaidd cyntaf.

Roedd Y Drindod wedi bwriad bod yn goleg cymysg ers cryn amser ac er y bu’n rhaid i’r myfyrwyr benywaidd cyntaf fynnu eu hawl i gael eu trin yn yr un ffordd â’u cyd-fyfyrwyr gwrywaidd, cawsant eu croesawu’n gynnes.

Ni ellir dweud yr un peth am Goleg Dewi Sant, lle’r oedd rhai o’r myfyrwyr wedi’u harswydo o ddeall y byddai atsain sŵn traed merched i’w clywed yng nghloestrau’r coleg! Perodd gyrhaeddiad y rhyw deg gryn gyhoeddusrwydd, gan ddenu hyd yn oed newyddiadurwyr a dynion camera o’r BBC.

Gwnaeth y pump ar hugain o fyfyrwyr benywaidd cyntaf addasu i fywyd yn Newi Sant yn gyflym. Ym mis Hydref 1965, gwnaeth cylchgrawn y coleg y Gownsman gynnwys adran newydd, y Gownswoman, oedd â’i dîm golygyddol ei hun o chwech o fenywod, a’r flwyddyn olynol cafodd yr ymgeisydd benywaidd cyntaf ei hethol yn Llywydd ar yr Undeb Weithredol. Erbyn 1969 roedd Dirprwy Lywydd ac Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr yn fenywod a menywod oedd llywyddion yr undeb ddadlau, y gymdeithas hanesyddol a hyd yn oed y gymdeithas rheilffyrdd.

Gwnaeth y chwe deg o fenywod cyntaf a gofrestrodd yn Y Drindod hefyd gofleidio bywyd myfyrwyr, gan sefydlu clybiau tennis, hoci a phêl-rwyd yn gyflym yn ogystal ag ymuno â’r clwb jiwdo. Gwnaethant hefyd ymuno â’r gerddorfa, y gymdeithas ddrama a’r pwyllgor dawns. Ar y cychwyn, gwnaeth y Pennaeth Halliwell geisio gosod amser ‘bod ar y campws’ cynt i fyfyrwyr benywaidd, yn ogystal â’u gwahardd rhag cael cynrychiolwyr ar gyngor y myfyrwyr. Fodd bynnag, wedi i’r rhain gael eu gwrthwynebu’n gryf fe adfyfyriodd yn gadarnhaol ar yr “arbrawf newydd mewn byw”

Gan ddefnyddio cylchgronau’r coleg, Llyfrau Cofnodion, ffotograffau ac ephemera o’r archifau, mae’r arddangosfa hon yn archwilio profiadau’r merched ‘arloesol’ hynny a chwaraeodd ran bwysig yn esblygiad y ddau gampws sydd bellach wedi ffurfio’r Drindod Dewi Sant.

Meddai Siân Collins, Pennaeth y Casgliadau Arbennig ac Archifau: “Wrth edrych nôl o 2022 mae’n anodd deall pam bod cofrestru ‘menywod’ yn fyfyrwyr mewn Coleg i ddynion yn unig wedi’i ystyried gan rai yn ddigwyddiad mor seismig. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn taflu goleuni ar rai o’r heriau a wynebwyd gan y myfyrwyr benywaidd cyntaf, yn ogystal â darparu mewnwelediad hynod o ddiddorol i mewn i fywyd Coleg y 1950au a 60au.”

Mae’r arddangosfa ar gael i’w gweld ar-lein  yn ogystal ag yn llyfrgelloedd Llambed, Y Fforwm a Chaerfyrddin nes diwedd y mis.