Merched Rygbi Llambed yn fuddugol yn Stadiwm Principality

Pencampwyr Cystadleuaeth Plat De Cymru.

Lynwen Jenkins
gan Lynwen Jenkins

Roedd Dydd Sul, y 1af o Fai, yn ddiwrnod mawr i Dîm Rygbi Menywod Llambed. Y diwrnod pan fyddent yn cael y cyfle euraidd i chwarae yn ffeinal y Plat yn erbyn y Coed Duon yn Stadiwm y Principality. Roedd llu o gefnogwyr brwd wedi gwneud y siwrnai lawr yr M4 i weld y tîm yn perfformio, ac yn wir, ni chawsant eu siomi.

Un-ochrog oedd yr hanner cyntaf o ran y sgôr, gyda Llambed yn cyrraedd yr egwyl ar y blaen o 26 – 0. Yn ystod yr hanner yma, cawsom weld sgiliau  deheuig Sian Davies, y canolwraig, wrth iddi dorri drwy’r amddiffyn fel cyllell drwy fenyn am ddau gais. Gwelwyd cais hefyd i Carys Schofield, wrth i’r blaenwyr weithio gyda’i gilydd mewn sgarmes symudol. Trosiwyd dau gais gan y rhif 10, Natasha Roberts. Torrwyd lif chwarae y tim o Lambed wrth iddynt golli hi ar ôl ugain munud yn unig oherwydd anaf. Dymuniadau gorau iddi hi am wellhad buan. Er y siom o golli eu Maswr, yr un oedd y penderfyniad a’r awch i ymosod, gyda Carys Schofield, yr ail-reng, yn taranu drwy’r amddiffyn i sgorio unwaith eto ac ymestyn y sgôr. Trosiad gan Chloe Fletcher i ddilyn.

Yn gynnar yn yr ail hanner, croesodd Sian Davies unwaith eto i gael ei ‘hat-trick’. Roedd y Coed Duon yn dîm cryf, corfforol a’r blaenwyr llawer yn drymach na Llambed ac nid oeddent yn barod i roi’r ffidil yn y to. Yn yr ail hanner, fe wnaethant lwyddo i gael pedwar cais, a’r rhain yn deillio ar y cyfan o waith y pac yn ymosod fel uned yn agos i’r gwyngalch. Cafodd Llambed eu cosbi yn hallt gyda 2 gerdyn felen yn yr ail hanner. Serch hynny, parhaodd y tîm i fod yn greadigol, ac yn mainteisio ar gyflymder a sgiliau trafod slic i osgoi’r amddiffyn yn rheolaidd. Hudolus oedd rhediad Sian Davies yn hwyr yn y gêm i goroni diwrnod gwych iddi hi a’r tîm, wrth iddi groesi am ei phedwerydd. Trosiwyd y cais yna gan Fiona Protheroe.

Y sgôr terfynol oedd Llambed 38 – Coed Duon 22. Diwrnod bythgofiadwy i’r tîm a’r cefnogwyr i gyd.