Myfyriwr o deulu Cymreig o Batagonia yn graddio o’r Drindod Dewi Sant

Soledad yn graddio gyda gradd Meistr mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol yn Llanbed.

gan Lowri Thomas

Soledad Valeria Davies a’i theulu yn y Seremoni Raddio gyda’r Hybarch Randolph Thomas a’r Athro Medwin Hughes.

Dr Nick Campion, Yr Hybarch Randolph Thomas, Soledad Valeria Davies, Yr Athro Medwin Hughes.

Mae Soledad Valeria Davies wedi graddio gyda gradd Meistr mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol ar gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Soledad yw’r 5ed genhedlaeth o deulu Cymreig a ymfudodd o Rymni i fyw ym Mhatagonia yn yr Ariannin yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Mae’r ardal yn enwog am y teuluoedd Cymreig a ymfudodd yno y pryd hwnnw i sefydlu’r Wladfa gyda’r gweinidog Michael D. Jones.

Mae teulu Soledad wedi cynnal eu traddodiadau Cymreig, gan gynnwys canu emynau Cymraeg a choginio ryseitiau Cymreig ac maent yn ymfalchïo’n fawr yn eu hanes sydd wedi’i ddogfennu ym Meibl eu teulu.

Roedd Soledad yng nghwmni ei theulu a oedd wedi teithio o’r Ariannin i fynychu’r seremoni raddio. Wrth ymweld â Chymru maent yn bwriadu teithio i Rymni i olrhain eu gwreiddiau.

Dywedodd Soledad am ei gradd meistr: “Mae’r cwrs wedi bod yn anhygoel. Roeddwn yn rhwystredig gyda’r byd academaidd o’r blaen, ond mae’r darlithwyr yma yn ysbrydoledig ac wedi agor fy meddwl a’m calon i astudio”.

Dywedodd Dr Nicholas Campion, Cyfarwyddwr Rhaglen MA mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg a Chyfarwyddwr Canolfan Sophia ar gyfer Cosmoleg mewn Diwylliant a’r Athrofa Cytgord yn y Brifysgol: “Mae’n anrhydedd arbennig cael myfyriwr o deulu Cymreig a ymfudodd i Batagonia rai canrifoedd sydd bellach wedi dod yn ôl i astudio yng Nghymru. Mae’n fath o ddod adref go iawn ac rydym yn falch iawn o gyflawniadau Soledad.

“Mae’r rhaglen Meistr hon yn unigryw gan mai dyma’r unig radd academaidd yn y byd sy’n archwilio’r ystyr a’r arwyddocâd y mae pobl yn eu priodoli i’r sêr a’r planedau. Mae’r rhaglen yn ymdrin â phob diwylliant a phob cyfnod amser”.