
Criw yr Ysgol Sul ar ôl y perfformiad.

Cara, bugail a Leisa, gŵr doeth.

Sara a Marged, yr angylion

Ilan-Alffi a Bethan fel Mair a Joseff

Gruff, gŵr y llety a Gwil fel yr asyn.

Y Bugeiliaid eleni oedd Ffion, Aron a Cara.

Leisa, Trefor ac Ilan-Rhun oedd y tri gŵr doeth.

Pasio’r Parsel!


Math fel oen bach

Santa yn rhoi anrhegion i’r plant.



Mam Llain yn cadw llygad ar bethau, gyda Menna a Margaret.

Dyma Santa yn cyrraedd ar gefn beic Corrach Geraint!

Cafwyd oedfa Nadolig hyfryd unwaith eto eleni ym Mrynhafod, Gorsgoch. Ar ôl wythnosau o ymarfer, perfformiodd blant yr Ysgol Sul Ddrama’r Geni.
Roedd gwledd o ganu ac actio gwych yn y capel, a’r gynulleidfa wrth eu bodd yn gweld yr ieuenctid yn perfformio, wedi gwisgo yn eu gwisgoedd arbennig o gyflwyno Stori’r Geni.
Diolch i bawb am hyfforddi ac am gefnogi’r Ysgol Sul.
Ar ôl y Gwasanaeth, cafwyd parti Nadolig yn y neuadd, gyda digon o fwyd a gemau. Yna daeth ymwelydd arbennig i’n gweld… SANTA! Llwyddodd i gyrraedd y pentref ar feic fferm ar ôl mynd yn sownd yng Nghapel y Groes oherwydd yr hewlydd slic. Diolch i Gorrach Geraint am ei achub!
Nadolig Llawen i bawb wrthon ni ym Mrynhafod!!