Newid lleoliad munud olaf i’r Sioe Feirch

Dros y penwythnos, cynhaliwyd Sioe Feirch Llambed ar ôl dwy flynedd o doriad oherwydd y firws.

Gethin Morgan
gan Gethin Morgan
IMG_1677

Yr olygfa yn y brif bencampwriaeth

Ddwy flynedd yn ôl, ar ddechrau beth fyddai dwy flynedd hir o gyfyngiadau oherwydd y pandemig fe ganslwyd Sioe Feirch Llambed. Ar y pryd, roedd rhai o’r pwyllgor yn amau’r penderfyniad gan feddwl y byddai’r firws wedi mynd a dod mewn wythnosau.

Felly, wedi dwy flynedd roedd yr awydd gan bobol y byd ceffylau yn fwy nag erioed i fod nôl ar gaeau Llanllyr, Talsarn. Er bod rhai sioeau wedi eu cynnal llynedd, mae’r Sioe Feirch yn parhau i fod yn ddechreuad pwysig i galendr y merlod a’r cobiau Cymreig.

Wythnos cyn y sioe, fe fu dipyn o ddrama am nad oedd amgylchiadau’n caniatáu i’r sioe cael ei chynnal yn y cae arferol. O’r herwydd, aeth y pwyllgor gyda pherchennog y caeau i chwilio am gae newydd. Daethpwyd o hyd i gae ar ochr arall y pentref yn agosach i Drefilan. Fel arfer, mae’r sioe’r ochr yma i’r bont ger cwmni Daltons wrth deithio o Lambed. Ond, yn amlwg, gyda newid y daw cynllunio ychwanegol a bu’n rhaid addasu sawl peth ar gyfer y maes newydd.

Un o’r prif newidiadau oedd y ffaith bod y traffig i gyd yn dod trwy’r un gât gyda hynny’n peri gofid i rai. Mae’r cyfnod rhwng 8 a 9.30 yn brysur iawn gyda degau o loriau a cheir yn cyrraedd yr un pryd. Ond, gyda gwaith arbennig tîm o wirfoddolwyr, fe lifodd y cerbydau i’r cae yn hawdd.

Am fod popeth yn y cae newydd yn agosach at ei gilydd roedd yr awyrgylch ben bore yn braf iawn. Roedd y cyfeillgarwch rhwng pobol o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn amlwg. Rhai heb weld ei gilydd ers amser hir.

Am 9.30, dechreuwyd ar ddiwrnod hir a brwd o gystadlu gyda beirniaid o dros y wlad. Roedd nifer y cystadleuwyr yn sefydlog o gymharu gyda blynyddoedd cyn y firws gyda chynrychiolaeth gadarn yn parhau o dros y ffin. Er i gystadleuwyr teithio o dros y wlad, roedd llwyddiant bobol leol yn amlwg.

Prif bencampwyr y Sioe oedd bridfa Fronarth, Llanon, gyda Fronarth Moriarty a’r cilwobr yn mynd i Elgan Evans (neu Elgan Gwellt i nifer) o Harford, Pumsaint gyda’i farch Eglwysfach Royal Flyer. Roedd Elgan hefyd yn is-bencampwr yn yr adran C gyda’r eboles 3 mlwydd oed.

Daeth un o ddisgyblion blwyddyn 7 Ysgol Bro Pedr i’r brig yn yr adran farchogaeth sef Annie Thomas yn marchogaeth Wyken Sweet Silhouette.

Dyma ddolen i luniau swyddogol y sioe.

Y cwestiwn mawr a fydd yn destun trafod i nifer erbyn hyn yw a fydd y sioe yn aros yn y cae newydd neu’n mynd yn ôl?