Newidiadau i drefniadau dychwelyd i Ysgolion Ceredigion

Amser cinio heddiw, derbyniwyd datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion yn cyhoeddi newidiadau i’r llythyr a ddanfonwyd at rieni ddoe.

gan Ifan Meredith

Yn ogystal â gwneud profion llif unffordd (LFT) tair gwaith cyn dychwelyd i’r campws a pharhau i wneud hynny bob bore Llun, Mercher a Gwener, mi fydd gofyn i ddisgyblion ac athrawon wisgo mygydau yn y dosbarthiadau, ar y coridorau ac yn y ciw cinio.

Gofynna Ysgol Bro Pedr pe bai un o’r profion llif unffordd yn dod nôl yn bositif, i hysbysebu’r ysgol drwy e-bostio gweinyddu@bropedr.ceredigion.sch.uk ac archebu prawf PCR. Dylid hysbysebu’r ysgol yn dilyn prawf LFT neu PCR positif.

Erbyn heddiw, mae datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion yn crybwyll y bydd rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael eu dysgu o bell ar ddydd Gwener y 7fed o Ionawr tra fydd disgwyl i flynyddoedd 11 a 13 fynychu’r ysgol am ddarpariaeth wyneb yn wyneb yn ogystal â disgyblion yr hybiau.

‘Mae absenoldebau staffio cynyddol ar draws pob rhan o waith y Cyngor o ganlyniad i amrywiolyn Omicron.  Bydd ysgolion Ceredigion yn anelu i ailagor yn llawn i bawb er mwyn dysgu wyneb yn wyneb ar Ddydd Llun 10fed Ionawr

Cawn hefyd rybydd yn y datganiad y gall ‘absenoldebau staffio mewn ysgolion arwain at ddysgu o bell am gyfnod.’