Newidiadau i wasanaethau dros yr Ŵyl

Amserau Meddygfeydd, Fferyllfeydd a Chasglu Sbwriel yn yr ardal

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bydd Meddygfa Taliesin Llanbed a Meddygfa Brynmeddyg Llanybydder ar gau ar:

  • Dydd Llun 26 Rhagfyr 2022
  • Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 2022
  • Dydd Llun 2 Ionawr 2023

Dyma’r fferyllfeydd lleol a fydd ar agor dros yr Ŵyl:

Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr 2022 – Noswyl Nadolig

Fferyllfa Adrian Thomas, Llanbed 9 yb – 1 yp

Boots, Llanbed 9 yb – 4 yp

Fferyllfa Lloyds, Llanbed 9 yb – 1 yp

Dydd Sul 25 Rhagfyr 2022 – Dydd Nadolig

Boots, Llandysul 4 yp – 5 yp

Dydd Llun 26 Rhagfyr 2022 – Gŵyl San Steffan

Fferyllfa Adrian Thomas, Llanbed 2 yp – 4 yp

Fferyllfa Lloyds, Llandysul 4 yp – 5 yp

Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 2022 – Gŵyl y Banc

Boots Aberystwyth 10 yb – 4 yp

Morrisons Aberystwyth 10 yb – 4 yp

Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr 2022 – Noswyl Calan

Fferyllfa Adrian Thomas, Llanbed 9 yb – 1 yp

Boots, Llanbed 9 yb – 4 yp

Dydd Sul 1 Ionawr 2022 – Dydd Calan

Fferyllfa Penrhyn, Aberporth 2 yp – 4 yp

Boots, Llandysul 4 yp – 5 yp

Dydd Llun 2 Ionawr – Gŵyl y Banc

Fferyllfa Penrhyn, Aberporth 2 yp – 4 yp

Boots Aberystwyth 10 yb – 4 yp

Morrisons Aberystwyth 10 yb – 4 yp

Mae newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros y Nadolig:

Dydd Llun 26 Rhagfyr – cesglir biniau ar ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr. Bydd pob diwrnod arall fel arfer.

O ddydd Llun 2 Ionawr – bydd casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach nag arfer.

O ran Gwasanaeth Casglu Gwastraff yng Ngheredigion mae’r Cyngor Sir yn hysbysu preswylwyr bod yna ffactorau yn mynd i effeithio ar y trefniadau eleni:

“Os nad ydym yn gallu casglu eich gwastraff, dylech ei ail-gyflwyno ar eich diwrnod casglu nesaf.

Bydd ein timau, sy’n gweithio’n galed trwy’r flwyddyn, yn gwneud eu gorau i gynnal cymaint o lwybrau casglu gwastraff â phosib dros yr wythnos sydd i ddod.

Fodd bynnag, cadwch olwg am wybodaeth am y llwybrau na fydd yn bosibl i ni gasglu gwastraff ar wefan y cyngor.

Dywedodd y Cyng Keith Henson ar facebook “Mae staff yn trual i gore mas na” ond bod angen cofio bod posibilrwydd na fydd sbwriel yn cael eu casglu fel y trefnwyd mewn rhai ardaloedd.