NEWYDD DORRI : Ffordd Llanwnnen ar gau oherwydd damwain

Mae damwain ar ffordd Llanwnnen, ger garej Pentre Bach yn golygu bod dwy ochr y ffordd ar gau.

gan Ifan Meredith
B319A702-E4AB-42A2-B790

Mae’n ymddangos i un cerbyd fod ar ben ei weired yn y ddamwain.

Mae’r heddlu wedi bod ar safle’r ddamwain ar yr A475 ger Central Garage ers toc cyn 6:00 yr hwyr. Mae disgwyl i’r ffordd fod ar gau am ychydig o amser felly byddai yn syniad da i osgoi’r ardal.