gan
Ifan Meredith
Mae sawl cerbyd Heddlu, Ambiwlans a cherbyd y Frigâd Dân ar safle’r ddamwain ar Sgwâr Llanbed heno wrth i gerbyd adfer weithio i symud y car oddi yno ac ailagor yr heol yn llawn.
Yn ôl pobl a oedd ar y safle yn syth ar ôl y ddamwain, roedd yn ymddangos bod y gyrrwr yn feddw a bod mwy nag un person wedi cael niwed.
Daw hyn ddyddiau yn unig ar ôl damwain car ym Mhentre Bach ychydig ddyddiau nôl ac yng nghanol y drafodaeth i ostwng y cyfyngder cyflymdra mewn ardaloedd trefol i 20 milltir yr awr.