NEWYDD DORRI : Sedd arall i Blaid Cymru yng Nghyngor Sir Ceredigion.

Ann Bowen Morgan o Blaid Cymru yn ennill, ond pwy yw Ann Morgan?

gan Ifan Meredith

Ar ôl i bleidleiswyr ward Llanbed fwrw eu pleidlais yn y blwch pleidleisio ddoe, cyhoeddwyd mai Ann Morgan o Blaid Cymru oedd yn fuddugol ac felly yn cynrychioli’r ward yng Nghyngor Sir Ceredigion am y pum mlynedd nesaf. Derbyniodd Ann Morgan 291 o bleidleisiau i ennill sedd yn y cyngor sir.

Cynrychiolydd Plaid Cymru yw Ann Bowen Morgan ac mae yn wyneb cyfarwydd iawn yn yr ardal ac yn weithgar fel Cynghorydd Tref ers deng mlynedd, yn ymddiriedolwr a gwirfoddolwr yng Nghanolfan Deulu Llanbed, a hefyd yn gadeirydd ar Bwyllgor Gŵyl Ddewi’r dref a Phwyllgor Apêl Llanbed ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

“Trio codi proffil Llanbed yw’r peth pwysicaf a rhoi Llanbed ar y map”

Wedi hen ymgartrefi yn yr ardal, mae Ann Bowen Morgan yn awyddus i weld Llanbed yn adfywio ac yn ennill ei statws fel tref fywiog a ffyniannus ac felly am roi blaenoriaeth i’r materion canlynol:

  • Costau parcio teg
  • Sicrhau glendid a thaclusrwydd ar y strydoedd
  • Cysylltedd bandeang mwy effeithiol
  • Tai fforddiadwy i bobl leol
  • Sicrhau mynediad at wasanaethau iechyd i bawb

“diolch i fy nghefnogwyr i gyd, pobl Llanbed sydd wedi troi allan i bleidleisio i fi ac i’r tîm sydd wedi fy nghefnogi”

Yn ail, fu Sandra Jervis o’r Democratiaid Rhyddfrydol gyda 268 o bleidleisiau, gan adael Dinah Mulholland o’r Blaid Lafur gyda 160 o bleidleisiau a’r ymgeisydd Annibynnol, Lee Cowles gyda 18 o bleidleisiau.