Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Yng nghanol prysurdeb Nadolig, llwyddodd y Fenter i greu naws Nadoligaidd yn rhithiol mewn noson Gweithdy Torch Drws Nadolig gyda Wendy Davies, Blodau Blodwen a Noson Cyd-goginio Pryd Nadoligaidd gyda Lloyd Henry.

Gweithdy Torch:

“Diolch yn fawr Menter Gorllewin Sir Gâr am drefnu noson creu torch rhithiol eleni eto. Rwy’n mwynhau mynd ati i greu torch drws pob blwyddyn a mae’r Fenter wedi galluogi hyn i ddigwydd. Diolch i Wendy am ei harbennigedd ac amynedd i esbonio planhigion, rwy’n edrych ymlaen i fynd allan i weld beth gallaf weld yn fy ardal er mwyn creu rhwbeth dros y gwanwyn. Saesneg yw iaith y cartref felly rwy’n ddiolchgar am gallu mynychu’r sesiwn yma o’r tŷ gan glywed y Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at ddod i ddigwyddiad nesaf y Fenter, boed yn ddigidol neu rhithiol”.

Noson Blasu’r Nadolig:

“Am noson hyfryd, fe wnes i wir fwynhau’r sesiwn rhithiol yn cynnwys arddangosfa a chyd coginio gyda’r Fenter yng ngofal Lloyd Henry. Roeddwn yn gallu defnyddio fy ffwrn adref. Braf gallu dysgu sgil newydd ar nos Wener a gallu holi cwestiynau fel roedd angen gyda chriw arall o bobl. Diolch am gynnig y sesiwn yma am ddim”.

Groto Siôn Corn:

Dros dau benwythnos ym mis Rhagfyr daeth llawer o blant Gorllewin Sir Gâr i weld a sgwrsio gyda Siôn Corn yn Hendygwyn-ar-Daf a Phencader. Diolch yn fawr i Ganolfan Hywel Dda a Phafiliwn Pencader am y croeso cynnes ac am adael i Siôn Corn wneud ei hun yn gartrefol wrth ddod i adnabod plant a theuluoedd yr ardal a rhoi anrheg bach iddynt. Diolch am ymuno gyda ni a gobeithio fod pawb wedi mynd i’w gwely’n gynnar ar noswyl Nadolig.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru

Sesiynau stori:

Rydym yn ail-gychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar y 10fed, 17eg, 24ain a 31ain o Ionawr a’r 7fed a 14eg o Chwefror. Yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât ar y 12fed, 19eg a’r 26ain o Ionawr, yr 2il, 9fed a’r 16eg o Chwefror. A sesiynau newydd sbon yng Nghwmann ar ddydd Iau yn Neuadd Sant Iago ar y 13eg, 20fed a’r 27ain o Ionawr, ar 3ydd a 10fed o Chwefror. Bydd y sesiynau yn cychwyn am 10:30yb ym mhob lleoliad. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Adweitheg Babi/Plentyn:

Mae’r Fenter yn cynnig dosbarthiadau Adweitheg Babi/Plentyn yng ngofal Meleri Brown o Hafan Holistaidd sy’n cael eu cynnal ar ddydd Iau yn Neuadd Ysgol Llanfihangel-ar-Arth yn y bore ac Yr Atom Caerfyrddin yn y prynhawn. Os oes diddordeb gyda chi i fynychu’r sesiynau, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

Ffitrwydd a Siapio:

I ddathlu’r flwyddyn newydd, rydym yn ail-gydio yn ein sesiynau Ffitrwydd a Siapio gyda Siân Spencer, yn Neuadd yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn yn cychwyn ar nos Wener y 14eg o Ionawr o 5:30-6:30yp. £20 am 5 wythnos. Oherwydd niferoedd cyfyngedig bydd angen cofrestru o flaen llaw gyda gwyneth@mgsg.cymru.

Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith:

Mae’r Fenter wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn cychwyn ar rowndiau cyntaf Cwis Dim Clem 2021/2022 gyda nifer o ysgolion Gorllewin Sir Gâr yn cymryd rhan, llongyfarchiadau mawr i Ysgolion Beca, Bro Brynach, Cae’r Felin, Cynwyl Elfed, Y Dderwen a Llanpumsaint am fynd drwyddo i’r ail rownd wrth iddynt gystadlu yn erbyn ei gilydd yn rhithiol cyn mynd ymlaen at y rownd nesaf.

Wythnos ‘Gaeaf Llawn Lles’:

Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno wythnos o weithgareddau yn Llawn Lles yn ystod hanner tymor Chwefror sydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer ystod eang o oedrannau, yn cynnwys gweithdai meddwlgarwch, adweitheg a yoga, sesiwn creu cerddoriaeth a sesiynau awyr agored yn cynnwys cwrs rhwystr fwdlyd, beicio mynydd a chwrs rhwystr dŵr. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu ar ein cyfryngau cymdeithasol yn fuan. Diolch am y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr. #gaeafllawnlles

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris ar y ffôn: 07939 962042.