Noson hudol o hwyl, miwsig a siopa yn Llambed ar ddechrau Rhagfyr

Noson Siopa Nadolig Hwyr yn Llambed ar Ragfyr 1af 4.30yp tan 7.30yh

gan Sarah Ward
0CC0D9EA-E0CB-4280-8C22

Noson Siopa Nadolig yn Llambed llynedd. Llun gan y Stiwdio Brint.

Mae adeg y Nadolig yn Llambed wastad yn un sbeshal: goleuadau Nadolig yn croesawu ymwelwyr o bob cyfeiriad, amryw o siopau annibynnol yn cynnig gwledd i’r llygaid yn ogystal ag anrhegion creadigol, ond hyd yn oed fwy na hyn, mae yna wynebau cyfeillgar ymmhobman i wneud i chi deimlo’n gartrefol.

Mae’r Noson Siopa Nadolig Hwyr yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, ac eleni mae Siambr Fasnach Llambed yn dechrau mis Rhagfyr gyda noson hudol o hwyl, miwsig a siopa diri!

Bydd y Maer Helen Thomas a chadeirydd y Siambr Fasnach Heulwen Beattie yn agor y noson am 4.30yh, a bydd Gillian Elisa yn ymuno â Helen i oleuo Coeden Nadolig y dref ar y Sgwâr am 4.50yh.

Bydd Sion Corn yn cerdded trwy’r dref ar y ffordd i’w groto yn Lois Designs wedi iddo ymweld â thrigolion Hafan Deg, ac mae e’n edych ymlaen at gwrdd â phlantos y fro wrth wneud hyn.

Darperir adloniant gan Gôr Cwmann, John Frith, Grŵp Ukulele Llambed, Eklektica a The Class Bees, felly bydd naws Nadoligaidd ar hyd y stryd drwy gydol y digwyddiad.

Mae Radio Cymru yn darlledu yn fyw o Lambed rhwng 2.00yp a 5.00yh, a bydd yna westai arbennig iawn yn ymuno â’r hwyl!!

Ar y strydoedd bydd yna ffair, stondinau diri, ac hefyd bydd yr Injan Dân ar gael i ymwelwyr ifanc fwynhau yng nghwmni ein arwyr tân lleol. Bydd Y Stiwdio Brint yn rhedeg eu Ffotobwth ar y noson hefyd, felly bydd hwyl a sbri i’w gael ym mhobman!

Yn 2021 cynhaliwyd cystadleuaeth yn yr ysgolion lleol i ddylunio carden Nadolig ar gyfer y Siambr Fasnach – enillwyd y gystadleuaeth gan Vanessa Gwiazdzinska o Ysgol Bro Pedr, ac mae’r cardiau gorffenedig ar gael i’w prynu eleni am £1 y garden o Y Stiwdio Brint, The Mulberry Bush a’r Llew Du Llambed.

Bydd ffenestri siopau’r dref hefyd yn arddangos posteri lliwgar a grëwyd gan blant y fro yng nghystadleuaeth lliwio Nadolig y Siambr Fasnach eleni eto, felly cadwch llygaid allan am rhain tra’n gwneud yr helfa drysor o amgylch y dre!

Yn ogystal â’r caffis a thafarndai sydd ar agor gyda gwledd o fwyd a diod, mae Llyfrgell Llambed hefyd yn cynnal digwyddiad am 7yh yr un noson, yng nghwmni awduron lleol Jane Campbell a Helen May Williams, felly edrychwn ni ‘mlaen at eich croesawu i Lambed ar Ragfyr 1af!