Y nyrs filfeddygol sy’n yfed gormod o Pepsi Max

Manon Williams o Bencarreg sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
1BACBE33-29F3-4A94-817F

Yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc fe welwch mai Manon Lois Williams o Bencarreg sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau.

Mae Manon yn ferch ifanc amldalentog.  Mae ganddi radd mewn Pensaerniaeth Mewnol ond newidiodd ei gyrfa er mwyn dysgu i fod yn Nyrs Filfeddygol.  Yn ychwanegol i hynny, dechreuodd ei busnes ei hunan yn ystod y cyfnod clo, sef Blaguro a datgela yn Clonc ei bod yn gallu torri gwallt yn dda hefyd.

Wrth drafod ei harferion gwael dywed ei bod yn yfed gormod o Pepsi Max ond disgrifia ei hun fel person caredig, cariadus ac yn gwd sbort mewn tafarn!

Ble a phryd wyt ti mwyaf hapus?

Gyda Rhys neu mas gyda ffrindiau.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?

Siani Sionc.

Pwy sy’n ddylanwad arnat ti?

Mam a Dad.

Er mwyn darganfod mwy am Manon, tanysgrifiwch i Bapur Bro Clonc ar y we, neu ewch i brynu copi o rifyn mis Mawrth yn y siopau lleol.