‘On’d oedden nhw’n ddyddiau da?’

Silyn Thomas o Heol y Gaer ac Anne Thorne o Lanllwni yn rhannu eu hatgofion am Lanybydder.

gan Gwyneth Davies
Mart Llanybydder

Er mai brodor o Wernogle yw Silyn, mae e wedi treulio nifer o flynyddoedd yma yn Llanybydder. Dyma felly’r hyn sydd ganddo i’w rannu â ni:

Atgofion Silyn

‘Diolch am y dewis doeth o deitl i’r gyfres hon o storïau a hanesion, oherwydd wrth edrych yn ôl a’u cymharu â’n dyddiau presennol, roeddent yn ddyddiau da a diddorol ar y cyfan. Er gwaetha rhyw gyfnodau o galedwch a wynebai pobol mewn amryw ffyrdd, roedd bywyd yn hapusach ac yn fwy cymdeithasol a hamddenol. Pobol yn fwy cyfeillgar a chymwynasgar tuag at ei gilydd. I gymharu â’r oes hon, doeddent yn gyffredinol, ddim yn erbyn ‘bywyd moethus, aur y byd na’i berlau mân,’ ac roedd eu calonnau o’r herwydd yn fwy hapus, gonest a glân.

Un o’r cyfnodau anodd a wynebwyd oedd haf gwlyb a gwael 1946 a’r cnydau yn pydru a mynd yn ofer. Yna’n ei ddilyn, gaeaf hir a chaled 1947 a’r ddau dymor yn achosi colledion enfawr mewn cnydau, cynnyrch ac anifeiliaid. Roedd sôn am ffermwyr ucheldiroedd Cymru yn aredig cwysi o eira a hynny ym mis Mehefin. Yn dilyn haf gwael, dyma fel oedd testun y llinell goll mewn eisteddfod leol –

‘Haf rhyfedd a fu’r haf diwetha
Y tywydd bron drysu y doetha
Y gweiriau a’r ŷd ar eu hyd
A Phrydain yn wylo am fara.’ (y llinell fuddugol)

Tua chanol y ganrif ddiwetha, pan ddaeth fy nheulu o Wernogle i Lanybydder i fyw, bu ffermwr lleol, llewyrchus erbyn hynny yn dweud tipyn o’i hanes ac yn sôn amdano flynyddoedd ynghynt yn mynd â deugain o ŵyn i fart Llanybydder ond yn methu cael cynnig pris rhesymol. Yna’n cerdded trannoeth yr holl ffordd i fart Ffairfach ger Llandeilo a chael chwe cheiniog yr un yn fwy amdanynt. Ychydig ar ôl hynny er ceisio gwella ei stoc, mynd i fart Talybont, Ceredigion a phrynu dwsin o ddefaid. Yna gofyn i’r gwerthwr am ryw swllt o lwc, yn ôl yr arferiad, a’r ateb oedd ‘Na, chei di ddim pres, ond fe dala i am hanner peint o ddiod i ti.’ Hynny ond rhyw geiniog neu ddwy debyg iawn oherwydd mae gen i gof am ddiod ond yn chwe cheiniog y peint flynyddoedd yn ddiweddarach. Cofiaf hefyd, pan yn grwtyn tua unarddeg oed tua diwedd pedwar degau’r ganrif ddiwetha, amdanaf yn mynd dros gyfnod o ryw bedair blynedd i helpu ffermydd o ardal Llidiad Nennog i yrru bustych a threisiedi i fart ffair Llanybydder ar y cyntaf o Dachwedd. Cysgu’r noson cynt ym Mhenygarreg ac yna, pum fferm, sef  Penygarreg, Blotweth, Blaenhoeliw, Penrhiwdilfa a Blaenport yn dod â’u hanifeiliaid, o ryw chwech yr un, i gwrdd â’i gilydd ar sgwâr Blaencwm yn gynnar yn y bore a’u cerdded i fart y ffair. Fy nhâl am y gwaith oedd chweugain (wheigen yn nhafodiaith yr ardal, hanner punt -50c) gan yr hen ŵr caredig Jâms Davies, Penygarreg, a rhyw ychydig ychwaneg i brynu cinio ac efallai cael ambell swllt fel ffeirings gan rai o’r ffermwyr eraill am taw fi, fel rhyw gi defaid, oedd wedi rhedeg i gadw’r mwyafrif o’r creaduriaid ar y ffordd gywir gan nad oeddent hwy debyg iawn yn gallu darllen yr arwyddion ffyrdd i Lanybydder, nac yn awyddus chwaith i fynd i’r mart na’r ffair. Oedd, roedd yn un o’r dyddiau da i mi yn bendant. Rai blynyddoedd wedyn, pan oeddwn gyda’r fyddin yn wynebu peryglon bywyd milwr yn y jyngl ym Malaya, a hynny bron yn ddyddiol am ryw deirpunt yr wythnos, roedd y meddwl yn crwydro ac roedd edrych ymlaen yn obeithiol at gael eto mwynhau difyrrwch y ffair a gwerth y ‘wheigen’ yn help i godi’r galon’.

Mae gen i atgof am ryw bump o fechgyn ardal Llidiad Nennog yn seiclo gyda’i gilydd i Lanybydder. Un ohonynt o ychydig tu fas i’r pentre yn diodde o ryw salwch, a’r alwad gynta wedi cyrraedd oedd am botel o foddion gan Doctor Tunn, yna mynd gyda’i gilydd i roi tipyn o ‘win y gwan,’ sef cynnwys y botel Guinness a’i thebyg yn y corff er mwyn cryfhau’r ‘pedal power’ i fynd nôl adre. Mae’r daith o Lidiad i Lanybydder yn weddol hawdd ond nid felly’r ffordd nôl gan taw dringo rhiwiau serth yw llawer ohoni. Rôl dod mas o’r dafarn, cymerodd dyn y moddion lwnc dda ohono gan ddweud ‘Os yw peth yn dda, mae mwy yn well.’ Yna’n yfed y cyfan a bant ag e ‘ar ei feic’ fel ysgyfarnog o flaen milgi. Rai dyddiau wedyn, roedd yn dweud bod y cymysgwch o’r moddion a’r gwin wedi effeithio cymaint arno nes iddo deimlo a breuddwydio iddo gyrraedd adre bythefnos o flaen gweddill y criw. Teimlo siŵr o fod fel rhywun yn pedlo ‘hen feic peni-ffardding fy nhaid’ yn y ‘tour de France.’ Gyda phris y petrol mor uchel, mae’n debygol taw llai o geir a mwy o ‘feics peni-ffardding’ a’u tebyg fydd ar ffyrdd y wlad yn fuan. Ond beth bynnag a ddaw, rhaid byw mewn gobaith y gwelwn lawer o ddyddiau da eto.’

Atgofion am gaffi’r Masons oedd gan Anne Thorne ac er mwyn clywed yr hanes, mynnwch gopi cyfredol o bapur Bro Clonc. Os oes gennych chi unrhyw atgofion o Lanybydder, cysylltwch â fi Gwyneth Davies ar 01570 480683 neu gwyneth-davies@outlook.com