On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Bertie a Mair Davies yn rhannu eu hatgofion am gartref gofal Allt-y-Mynydd.

gan Gwyneth Davies
Staff Allt-y-Mynydd

Nôl â ni i’r flwyddyn 1961 i gael hanes y crwtyn ifanc a ddechreuodd weithio yn Allt-y-mynydd neu Sanitoruim fel y’i gelwid yr adeg honno. Dyma atgofion Bertie:-

‘Ysbyty ar gyfer TT oedd Sanitoruim i ddechrau ac roedd nifer o’r ysbytai yma o gwmpas bryd hynny. Beth bynnag, erbyn i fi ddechrau gweithio yno, roedd TT wedi dod o dan reolaeth a’r ysbyty erbyn hynny’n delio â phobl gyda phroblemau i’r chest. Handi man o’n i ac yn gwneud tipyn o bopeth fel cynnau tân, glanhau’r cafnau, gofalu ar ôl pump boiler a glanhau’r ffenestri. Roedd sawl tân agored yno ac ro’n i’n gorfod torri’r glo yn dwmpathau a’i gario mewn bwced gan ei roi ar bob tân, torri coed wedyn ar gyfer dechrau’r tân a chodi’r lludw hefyd. Roedd digon i’w wneud.

Mynd i weithio rhan amser wnes i yno i ddechrau. Llenwi mewn yn lle gweithwyr oedd yn dost a bois oedd ar eu gwyliau. Ar ôl blwyddyn, basies i fy mhrawf gyrru a dyma hynny’n agor drws newydd i fi. O hynny ymla’n, ro’n i’n gallu dreifo’r bws mini. Bob bore, ro’n i’n mynd rownd y cleifion i weld beth o’n nhw’n moyn o’r pentref. Fe fydde rhestr gyda fi o bethau fel Lucozade, papur newydd, sweets a stamps a bant â fi wedyn i siopau fel Compton, y Swyddfa Bost, Siop bapurau Elvita (siop Johnny Wenallt) a’r chemist. Weithiau fe fyddwn yn prynu pethau fel sanau neu facynon o siop Daph Evans, Elvet House. Fel rhan o’r gwaith, awn â chleifion lan i’r ystafell xray ac roedd yr ystafell honno ar wahân i’r ysbyty. Bryd hynny, roedd pob math o weithwyr yn cael eu cyflogi gan Sanitoruim. Roedd gyda nhw beintiwr, garddwr a saer hyd yn oed.

Roedd dad neu Dai Peithyn yn gweithio yno hefyd a boiler man o’dd e. Gwaith dad oedd cynnau’r boilers a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gweithio. Roedd steam boiler yno’n ogystal. Atgof arall sydd gen i yw gorfod fumigato pob gobennydd a phob matras ar ôl i’r cleifion adael yr ysbyty. Fel rhan o fy ngwaith hefyd, ro’n i a rhai eraill yn cario cinio lawr o’r cantîn i’r wards mewn containers. Byddai menywod y cantîn yn helpu ar benwythnosau. Roedd cleifion yno o bob man a dw i’n cofio bod nifer yn dod o leoedd fel Port Talbot a Neath. Ar benwythnosau wedyn, fe ddeuai dau fws â visitors i weld y cleifion yma. Dw i’n credu mai ar y Suliau oedd hynny ac mai o Bort Talbot oedd un bws. Pan o’n i’n blentyn, yn y 40au, roedd pictiwrs yn cael ei gynnal yn y dining room yn Sanitoruim ac fe fydde’r person oedd yn trefnu yn dweud wrthon ni pryd oedd y ffilmiau ‘mlaen a beth o’n nhw. Ro’n i wrth fy modd gyda’r ffilms cowbois.

Ym 1968 fe gaeodd Sanitoruim gan fod ward Padarn wedi agor yn Ysbyty Glangwili ac ro’n nhw’n trin cleifion a oedd â phroblemau gyda’r chest yno. Pan gaeodd y lle, doedd dim gwaith gyda ni wrth reswm ond cawsom wybod ble roedd modd trio am waith. Bues i’n lwcus i gael job fel ‘mate’ yn yr engineering department yn Ysbyty Glangwili. Ro’n i’n mynd rownd i wahanol ysbytai fel Dinbych y Pysgod, Ysbyty Priordy Caerfyrddin, Mynydd Mawr, Aberteifi a hyd yn oed yn dod nôl i gynorthwyo yn Santitoruim weithiau.  Er bod yr adeilad wedi cau, ro’n nhw’n brysur yn adnewyddu’r lle…

Er mwyn darllen mwy, mynnwch gopi diweddaraf Papur Bro Clonc sydd ar werth yn y siopau lleol ac ar gael fel tanysgrifiad blwyddyn ar y we.