Owain Davies yn cyflwyno adroddiad digri am beiriannau parcio Llanbed

Trafferthion talu am barcio yn denu chwerthin yn Eisteddfod Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Roedd tri yn cystadlu yn y gystadleuaeth Cyflwyno Adroddiad Digri yn Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbed heno.

Dyma un o gystadlaethau mwyaf poblogaidd yr eisteddfod a gynhaliwyd eleni yn Neuadd y Celfyddydau Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbed.

Adroddodd Owain Davies o Lanllwni am ei helbul yn ceisio talu am barcio ym mheiriannau Cyngor Sir Ceredigion ym Maes Parcio’r Cwmins yn Llanbed.

Bu’r peiriannau hyn yn destun newyddion yr wythnos hon gan fod siopwyr ac ymwelwyr yn cael trafferthion mawr i ddefnyddio’r peiriannau.

Felly testun cyfoes iawn gan Owain chwarae teg iddo a apeliodd yn fawr i’r gynulleidfa yn Eisteddfod Llanbed.

Llongyfarchiadau mawr Owain am fod mor wreiddiol ac am ennill y gystadleuaeth hon heno.  Y ddau arall a ddiddanodd y gynulleidfa oedd Gwion Bowen (2il) ac Ifan Meredith (3ydd).

Gwyliwch ddetholiad o’r adroddiad gan Owain yn y fideo uchod a dilynnwch Flog Blyw Clonc360 er mwyn gweld diweddariadau, lluniau a chanlyniadau o’r eisteddfod.