Owain Schiavone a Wendy Price yn bencampwyr Ras Sarn Helen

41 o redwyr yn cwblhau’r ras un filltir ar bymtheg a hanner eleni.

gan Richard Marks
Owain Schiavone y cyntaf adref
Wendy Price y fenyw gyntaf
Y grŵp blaen ar bont Felindre
Simon Hall ger Esgair Crwys
Dee Jolly ar ben Craig Twrch
Irfon Thomas ger Esgair Crwys
Delyth Crimes ar ben Craig Twrch
Glyn Price ger Esgair Crwys
Steffan Thomas ar ben Craig Twrch
Meic Davies ar ben Craig Twrch
Jamie Lambert ar ben Craig Twrch
Harri Rivers yn y ras ieuenctid
Sioned-Kersey-a-Bethan-Rosser

Sioned Kersey (42) a Bethan Rosser yn y ras ieuenctid

Lluniau gan Aneurin James.

Cynhaliwyd Ras Sarn Helen rhif 41 yn yr heulwen ar y 15fed o Fai, ras a gynhaliwyd yn flynyddol oddi ar 1979 oni bai am flwyddyn y clwyf traed a genau a dwy flynedd y Covid.

Braf oedd gweld 41 o redwyr yn cwblhau’r ras un filltir ar bymtheg a hanner eleni – tebyg iawn i’r nifer a’i rhedodd yn 2019 – gan gofio mai ras i’r cnewyllyn caletaf o redwyr yw hon.

Yn dringo dros 3000 o droedfeddi, mae’n cychwyn ger cyffordd Heol Tregaron ac yn hawlio tair ymdrech fawr gan y rhedwyr, y gyntaf o fferm Coedmor i fyny i Esgairgoch, yr ail i fyny Craig Twrch i ymuno â’r hen ffordd Rufeinig, a’r drydedd i fyny o bont Llanfair i Allt Cefnfoel cyn dychwelyd drwy’r caeau i orffen yng nghae rygbi’r dref.

Nid y cyntaf i gyrraedd oedd yr enillydd eleni gan i Mark Horsman o glwb Pontypridd gyfeiliorni wrth arwain y ras gan dorri rhyw ddwy filltir allan o’r siwrnai’n anfwriadol a chael ei ddifreinio.

Aeth y fuddugoliaeth felly i Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth mewn 1 awr 55 munud a 36 eiliad a’r ail safle i Rob Davies o glwb Dyffryn Aman (1:58:04.) Y fenyw gyntaf oedd Wendy Price (2:18:19) o glwb Dyffryn Aman.

Yr oedd 15 o redwyr Clwb Sarn Helen yn y ras ac yr oeddent yn ddiolchgar fod tipyn o awel yn lliniaru ychydig ar wres y dydd. Yn 4ydd i groesi’r llinell ac yn 3ydd o’r dynion dros 40 oedd Simon Hall (2:8:09) ac yn dynn ar ei sodlau ac yn ennill dosbarth y dynion dros 50 yr oedd Glyn Price (2:9:17) gan gadarnhau fod ei baratoadau at farathon llwybr Cymru yng Nghoed y Brenin yn mynd yn foddhaol.

Hefyd ymhlith y gwobrau daeth Meic Davies (2:16:23) yn 3ydd yn nosbarth y dynion dros 50 a George Eadon (2:18:44) yn ail ymhlith y dynion dan 40.

Er yn ail fenyw i orffen, Dee Jolly (2:29:51) oedd yn gyntaf yn nosbarth y menywod dan 35, ac unwaith eto profodd Delyth Crimes (2:54:59) ei bod yn anodd ei chadw allan o wobrau dosbarth y menywod dros 45 trwy ddod yn 3ydd ynddo.

Cafwyd ymdrech dda hefyd gan Irfon Thomas (2:20:44) a thra yr oedd Steffan Thomas (2:24:21) yn rhedeg y ras am y tro cyntaf, yr oedd Eric Rees (2:34:02) yn hen gyfarwydd â’r daith.

Llongyfarchiadau hefyd i Jamie Lambert (2:49:17), Mitchell Readwin (2:50:15), Nicola Williams (2:58:22), Rhys Burton (2:58:35), Pamela Carter (3:4:16) a Johanna Rosiak (3:23:48) ar ddygymod â’r her anodd hon. Wedi’r cyfan yr oedd 14 ohonom wedi cymryd yr opsiwn haws o redeg y cwrs naw milltir a hanner i redwyr “anghystadleuol” – y dyn a’r fenyw gyntaf i orffen hwn oedd Gareth Hodgson a Lou Summers, dau gystadleuol iawn yn ôl pob tystiolaeth!

Eleni fel arfer hefyd yr oedd ras filltir a hanner i’r dosbarth ieuenctid gyda Harri Rivers (11:54) a Sioned Kersey (12:59) yn fuddugol, a ras i’r dosbarth cynradd lle daeth Eva Davies (3:47) a Leighton Davies (3:57) i’r brig.