Paid poeni cymaint, bydd popeth yn troi mas yn iawn

Cyfrinachau Tomos Jones y trydanwr ym Mhapur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn rhifyn mis Medi Papur Bro Clonc gellir darllen am gyfrinachau Tomos Jones sy’n wreiddiol o Gwmann.  Trydanwr Diwydiannol yw e yn ôl ei alwedigaeth ac mae ganddo sylwadau diddorol fel rhan o golofn “Cadwyn y Cyfrinachau”.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Paid poeni cymaint, bydd popeth yn troi mas yn iawn.

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Torri gwallt fy chwiorydd diwrnod cyn priodas Wncwl ac Anti. Roedd mam yn benwan.

Pwy yw dy arwyr?
Fy nhad – gweithiwr caled sydd wedi rhoi lot o ysbrydoliaeth i mi.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?
Jiráff er mwyn cael bod yn dal.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n bersonol?
Chwarae Rygbi Cyffwrdd dros Gymru mas yn yr Iseldiroedd ac Iwerddon.

Pwy sy’n ddylanwad arnat ti nawr?
Tudur Jones. Mae gweld pa mor galed mae e’n gweithio a llwyddo yn ei fusnes yn ysbrydoliaeth fawr.

Er mwyn darllen mwy o’i ymatebion, prynwch gopi o rifyn cyfredol Clonc yn y siopau lleol, neu beth am danysgrifio’n ddigidol ar y we?