Y Parchedig Eirian Lewis yng Nghapel Bethel Parc-y-rhos

“Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist” Rhufeiniaid 13:14

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Ar ddydd Sul 6ed Chwefror croeswyd y Parchedig Eirian Lewis i Fethel.  Dyma oedd y cwrdd cyntaf yn y capel eleni a braf oedd gweld cynifer wedi dod ynghyd.

Gwnaed y cyhoeddiadau a chyflwynwyd y pregethwr gwadd gan Dylan, ac esboniodd fod y cwrdd yn cael ei ddarlledu’n fyw am y tro cyntaf ar facebook live tudalen facebook Bethel.

Codwyd y testun gan y Parchedig Eirian Lewis o bennod 13 Rhufeiniaid, adnod 14 “Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist”.

Gellir ailwylio’r cwrdd yn y fideo isod.