
Bydd siopwyr Nadolig ac ymwelwyr â Cheredigion yn gallu parcio am ddim ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y cyngor ar y tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig eleni.
Bydd costau parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y cyngor yn cael eu hepgor ar 10, 17 a 24 Rhagfyr 2022. Dyma’r meysdd parcio a fydd am ddim ar draws y sir:
Aberaeron
Ffordd Y Gaer Isaf, Traeth Y Gogledd, Traeth Y De
Aberteifi
Y Baddondy, Cae’r Ffair, Sgwậr Cae Glas, Rhes Gloster, Mwldan, Stryd Y Cei
Aberystwyth
Coedlan Y Parc Isaf, Maesyrafon, Ffordd Y Gogledd, Rhodfa Newydd, Coedlan Y Parc
Cei Newydd
Stryd Y Cware, Ffordd Yr Eglwys
Llanbedr Pont Steffan
Cwmins, Rookery, Stryd Y Farchnad
Llandysul
Rhes Y Porth
Tregaron
Iard Y Talbot
Mae’r taliadau yn ein meysydd parcio Talu ac Arddangos yn rhesymol ac yn cael eu gwneud yn gyfleus trwy ddulliau di-arian. Mae’r incwm a gynhyrchir yn cyfrannu tuag at y gost o gynnal a rheoli’r meysydd parcio yn ogystal â chefnogi gwasanaethau eraill y Cyngor.