Parêd Gŵyl Dewi Llanbedr Pont Steffan

Fideo ac adroddiad o’r dathliadau llwyddiannus ddoe.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dyma adroddiad gan Ann Bowen Morgan, Cadeirydd Pwyllgor Parêd Gŵyl Dewi Llanbedr Pont Steffan.

Cawsom orymdaith fendigedig bore ddoe y 5ed o Fawrth drwy Lambed, roedd yr haul yn disgleirio a’r tyrfaoedd wedi dod ynghyd yn eu cannoedd i ddathlu Gŵyl ein Nawddsant.

Arweiniwyd yr orymdaith gan Faer a Maeres y dref Selwyn a Judith Walters a’n harweinyddion gwadd sef Gary Slaymaker y comediwr a Ben Lake ein haelod seneddol yn San Steffan. Diolch i Brifswdddogion Ysgol Bro Pedr am gario’r baneri i ni.

Cyn dechrau’r Parêd cawsom gwmni Eddie Ladd a’i chriw a bu Côr Cwmann yn canu’r emyn Llanbedr yn hyfryd.

Cawsom gwmni Cyngor tref Llambed, Y Ganolfan Deulu, aelodau Côr Cwmann, Dysgwyr y cylch, Ysgolion Y Dderi, Bro Pedr, Carreg Hirfaen, Bro Cledlyn, Carreg Hirfaen a’r plant wedi gwisgo yn eu gwisgoedd Cymreig lliwgar. Braf oedd cael teuluoedd di-ri yn cefnogi. Hefyd roedd Merched y Wawr o Lambed, Felinfach, Llanbydder a Sefydliad y Merched o’r cylch, Cymdeithas Hanes, Cerddwyr y fro, aelodau capeli, Yes Cymru a llawer iawn mwy.

Diolch i Rob Phillips am drefnu’r stiwardiaid a chaewyd y ffyrdd yn llwyddiannus gan gerdded heibio Cartref Hafan Deg, ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Coleg ac i mewn i’r Brifysgol a lawr i Neuadd Lloyd Thomas i ddathlu ymhellach.

Yno roedd Siani Sionc yn disgwyl am gwmni’r plant a phaned, bara brith a phice bach i bawb. Roedd yn wych gweld y plant yn joio mewn sesiwn fyrlymus a bywiog o ganu, symud a dawnsio. Cawsom air i ddilyn gan Ben Lake a Gary Slaymaker wedi arwain gan Ann Bowen Morgan, Cadeirydd y Parêd.

Cyflwynodd Dylan Lewis wobrau 5 categori ar gyfer dathliad Penblwydd 40 Clonc a diolch i Dawn a Scott o Dawn’s Emporium am y gwobrau hyfryd o lechen.  Ewch i weld yr enillwyr a llu mwy a gymeradwyd yn ffenestri Crown Stores gan ddiolch i Eifion ac Alun Williams am eu caniatad.

Cyflwynwyd gwobrau Ffenestri Gŵyl Dewi Llambed gan y Maer a’r Faeres. Enillwyd y wobr gyntaf o darian y Cyngor a gwobrau y Maer gan Cadi a Grace, yr ail wobr gan Filfeddygon Steffan a’r trydydd gan y Sosban fach.

Diolchwyd i’n noddwyr gan Ann sef Y Brifysgol, Cered (a noddodd Siani SIonc), W.D.Lewis a’i fab, Clwb Rotari, Morgan & Davies, Evans Bros, ac i Miss Heini Ysgol Y Dderi, Gwen Gwarffynnon, Eryl Jones, Eifion Williams ac Ann am y gwobrau raffl, ac i Manon Richards ein hysgrifennydd a’n trysorydd Iona Warmington a’r pwyllgor.

Gorffenwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.  Diwrnod llwyddiannus iawn!! Diolch i bawb.

Gwyliwch recordiad o’r parêd ynghyd ag uchafbwyntiau’r dathliadau yn y fideo isod.