Pobol ardal Llanbed, ma’ angen i chi bleidleisio yn eich cannoedd!

Cyfle i helpu un o straeon Clonc360 ennill Barn y Bobol yng Ngwobrau Bro360 eleni

gan Tomos Owen

Mae Cyfweliad â phrif lenor yr Urdd, Sioned Howells wedi’i henwebu ar gyfer y wobr ‘barn y bobl’ sy’n rhan o wobrau Bro360 2022.

Allwn ni gael stori o Lanbed i’r brig?!

Dyma’ch cyfle chi i helpu Clonc360 i ennill Barn y Bobol eleni, wrth bleidleisio am y stori rhwng nawr ac amser cinio 28 Ionawr.

 

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Facebook Live Bro360 am 8pm nos Wener 28ain.

Yn ogystal, mae Clonc360 wedi cael ei enwebu am y gwobrau:

Cadwch lygad ar y cyfryngau i glywed pwy sy’n dod i’r brig!