Sioned Howells yn ennill Prif Lenor Eisteddfod T 2021

Sioned yn ateb cwestiynau am ei gwaith buddugol.

gan alphaevans

Sioned Howells o New Inn oedd Prif Lenor Eisteddfod T yr Urdd eleni. Mae Sioned yn aelod gweithgar ac yn drysorydd ar Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni ac yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi yn ei blwyddyn olaf o hyfforddi i fod yn fydwraig a dyma’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w hymson a ddaeth i’r brig yn seremoni’r Prif Lenor eleni.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Sioned wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc mewn sawl Eisteddfod leol, ac eleni, hi oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin.

Llongyfarchiadau mawr i ti Sioned ar dy lwyddiant yn Eisteddfod T yr Urdd, ac edrychwn ymlaen at ddarllen dy waith eto yn y dyfodol!

Gallwch ddarllen gwaith buddugol Sioned ar wefan Golwg360.