Porthcawl 10 Llambed 49

Merched Llambed yn fuddugol ddoe mewn gêm dda oddi cartref

gan Gwenllian Jenkins

Teithiodd Merched Llambed i Borthcawl ddoe i chwarae yn erbyn y ‘shegulls’. Roedd y tywydd yn sych ond roedd y tir yn dal i fod yn drwmedd.

Rheolodd Llambed y gêm yn dda am yr ugain munud cyntaf, gan sgorio deirgwaith drwy law Sian Davies(2) a Carys Schoflied. Wedi hyn, rhoddodd Porthcawl y merched o dan bwysau mawr ond amddiffynnodd merched Llambed yn galed tan yr hanner. Roedd y gêm yn ddi-sgor am ail hanner yr hanner cyntaf.

Dechreuodd Llambed yn gryf o’r chwiban yn yr ail hanner. Gyda thri chais yn dod drwy Chloe Fletcher, Carys Schofield a Sian Davies. Wedi dweud hyn, ymlaciodd Llambed rhywfaint a chafon ni ein cosbi o ganlyniad i ddiffyg disgyblaeth. Cymerodd Porthcawl fantais o hyn a sgoriwyd dau gais yn ein herbyn yn syth ar ôl ei gilydd. Er tegwch ymatebodd Llambed yn wych gan sgorio tri chais arall drwy Rhian Thomas, Sian Davies (trosiad gan Natasha Roberts) ac Ashley James. Ar ddiwedd y gêm coronwyd merched Llambed yn fuddugol 49-10.

Bydd y Merched yn chwarae eu gêm penwythnos nesaf adref yn Llambed yn erbyn West Swansea Hawks.