Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu Myfyrwyr o Wcráin i Lambed

Nadolig yn Llambed i ddwy fyfyrwraig o Wcráin.

gan Lowri Thomas

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu myfyrwyr o Wcráin i gampws Llambed.

Derbyniodd Anastasiia Patiuk a Valeriia Piven ysgoloriaeth gan Y Drindod Dewi Sant sy’n galluogi i fyfyrwyr o Wcráin astudio dyfarniad ôl-raddedig mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy.

Teithiasant o Kyiv i Lambed ym mis Hydref a dywedasant eu bod wedi’u syfrdanu gan y gefnogaeth a’r croeso maent wedi’u cael.

Meddai Valeriia: “Ni allwn ddiolch ddigon i’r Brifysgol, a phobl Llambed, am eu cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn.  Mae’r ysgoloriaeth hon wedi rhoi’r cyfle i ni i helpu ailadeiladu dyfodol Wcráin pan fyddwn yn dychwelyd adref.”

Cyn gadael Wcráin, cawsant gymorth gan y Brifysgol i baratoi ar gyfer cyrraedd yn y DU, ac ar y campws. Ychwanegodd Valeriia:

“Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar a pharod eu cymwynas. Wrth gyrraedd y campws am y tro cyntaf, cawsom ein cyflwyno i’r gwahanol sianeli cymorth sydd ar gael gan y Brifysgol o gymorth myfyrwyr i gymorth ariannol yn ogystal â chymorth llesiant.”

“Cawsom ein croesawu gan dîm rhyngwladol Y Drindod Dewi Sant â chalon agored a gwên a chawsom becyn croeso oedd yn cynnwys cyflenwadau cegin ac eitemau a wnaeth i ni deimlo’n eithriadol o emosiynol. Rydym yn meddwl amdanynt fel ein dewinesau da!”

Pan gyrhaeddodd Anastasiia Lambed am y tro cyntaf dywedodd ei bod yn teimlo’n gartrefol ar unwaith.

Meddai: “Rwy’n dod yn wreiddiol o Olevsk,  tref fach yn ardal Zhytomyz o Wcráin sy’n debyg iawn i Lambed. Mae popeth yn dawel, ac mae’r bobl yn neis iawn ac mor gefnogol yma. Yma, gallwch atgyfnerthu eich egni o adref a ffocysu.”

I Valeriia, mae Llambed yn:

“lleoliad adfywiol ac yn rhywle y byddwch yn teimlo’n gyfforddus ar unwaith ac yn rhan o’r gymuned. Mae mynd a dod yma o hyd. Mae pawb wedi ein croesawu gyda breichiau agored sydd wedi bod yn syfrdanol.”

Dywedasant fod campws Llambed yn hygyrch a chyfleus a’u hoff leoliad yw’r llyfrgell. Ychwanegodd Valeriia:

“Pan wnaethom gyrraedd ar y campws am y tro cyntaf, cymerodd y darlithydd Thomas Jansen ni ar daith o gwmpas y campws, a chawsom ein rhyfeddu gan hanes y lle hudol hwn. Mae stori unigryw o bwys hanesyddol ar bob cornel.”

Mae’r ysgoloriaeth mae’r ddwy wedi’i chael yn cynnwys astudio rhaglen ryngddisgyblaethol sy’n darparu profiad dysgu unigryw i ddatblygu dinasyddion byd-eang ac arweinwyr yfory. Mae’r rhaglen wedi’i seilio ar nodau cynaliadwyedd y CU  ac yn cyd-fynd â gwaith y Brifysgol gydag UNESCO.

Nod y cwrs yw paratoi myfyrwyr i ymgysylltu’n feirniadol â heriau byd-eang allweddol yr 21ain ganrif gan ddarparu cyfle i ddatblygu sgiliau llythrennedd ac arweinyddiaeth rhyngddiwylliannol. Mae’n edrych ar sicrhau bod gan raddedigion y sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â rôl arweinyddiaeth wrth adeiladu cymunedau ar gyfer y dyfodol a chryfhau dialogau rhyngddiwylliannol.

Mae’n cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys mewnfudo, cyfiawnder byd-eang, hawliau llafur, arweinyddiaeth ac ymdrin â gwahaniaeth diwylliannol.

Meddai Anastasiia:

“Mae’r cwrs yn berffaith, ac mae’r profiad mae’r darlithwyr yn ei rannu gyda ni bob dydd wedi gwneud argraff fawr arnom. Mae’r pynciau’n ddiddorol, ac yn gwneud i chi feddwl am bethau mewn ffordd wahanol.

“Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i edrych ar y byd o safbwynt ehangach, ac rwy’n dwlu ar ymchwilio ac archwilio gwahanol bynciau’r ddyfnach.”

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol Y Drindod Dewi Sant:

“Galluogodd yr ysgoloriaethau i’r myfyrwyr a oedd yn byw yn Wcráin neu wedi ei gadael yn ddiweddar i astudio ar gyfer dyfarniad ôl-raddedig mewn Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy.

“Mae ysgoloriaethau a bwrsarïau myfyrwyr yn ei wneud yn bosibl i fyfyrwyr fynychu’r Brifysgol na fyddai fel arfer yn bosibl iddynt wneud. Rydym yn ceisio creu hafan i’r myfyrwyr sydd wedi’u disodli, gan gynnig lloches yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd bod y myfyrwyr wedi setlo yma ac yn teimlo’n gartrefol yn Llambed.”

Er bod y ddau fyfyriwr yn mwynhau eu hamser yn Llambed – mae Wcráin yn dal i feddwl popeth iddynt. Bob dydd, maent yn gwylio’r neges ddyddiol a roddir gan Arlywydd Volodymyr Zelenskyy gyda’i gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn aml yn teimlo’n emosiynol wrth feddwl am eu teuluoedd gartref, ond ar yr un pryd yn gwybod bod eu teuluoedd yn falch ohonynt.

“Mae fy nheulu’n hapus fy mod wedi cael y cyfle yma i ddatblygu fy astudiaethau mewn amgylchedd diogel, ac mewn lle mor wych. Mae gen i gymaint i ddweud wrthynt pan fyddwn ni’n cysylltu â’n gilydd,” meddai Anastasiia.

“Mae’n anodd iawn bod oddi cartref, a pheidio gallu eu gweld nhw na’m cariad. Rwyf wir yn gobeithio y bydd pethau’n newid cyn hir.”

Meddai Valeriia:

“Astudiodd fy mam yng Ngholeg Bailbrook, Caerfaddon, nifer o flynyddoedd yn ôl, ac fe gwympodd mewn cariad gyda’r DU, a’i breuddwyd oedd i mi ddod i astudio yma hefyd. Felly, rwy’n ail-fyw breuddwyd fy mam, ac yn gwneud y teulu’n falch trwy fanteisio ar y cyfle hwn. Rydym mor ddiolchgar.”

Bydd Anastasiia a Valeriia yn astudio yn Llambed am y ddwy flynedd nesaf ond maent yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Wcráin ar ôl graddio.

Meddai Anastasiia: “Byddaf yn dychwelyd i Wcráin, a hoffwn weithio i un o sefydliadau’r llywodraeth fel y gallaf ymdrin â materion a gwneud y byd yn lle gwell.

“”Rwy’n gobeithio cymryd yr hyn rwyf wedi’i ddysgu yn Llambed nôl i Wcráin a dylanwadu ar y gweithle.”

Gweithiodd Valeriia fel rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus i’r ganolfan ddadansoddol yn yr ‘Institute fôr the Future’ yn Wcráin cyn cyrraedd Llambed, a dywedodd:

“Mae hyn yn gyfle gwych i mi wella fy hun. Ar ôl ehangu fy nghylchoedd astudio, byddaf yn parhau i weithio ym maes dadansoddeg neu gysylltiadau rhyngwladol. Hoffwn weithio ym maes problemau a chymunedau byd-eang.”

Ychwanegodd Lina Malagon, un o ddarlithwyr Y Drindod Dewi Sant:

“Mae addysgu ein myfyrwyr o Wcráin wedi bod yn broses o gyd-ddysgu a chyd-dyfu. Mae’r modwl Dinasyddiaeth Fyd-eang wedi bod yn gyfle i archwilio problemau byd-eang amrywiol, ac mae Anastasiia a Valeriia wedi cyfrannu’n weithredol iddynt. Gyda’n gilydd, rydym wedi archwilio, astudio, a beirniadu ein rôl fel dinasyddion byd-eang a’n gallu i gyfrannu at drawsnewid byd-eang.

“Maent i gyd wedi bod yn rhyfeddol fel cyfranogion yn ein rhaglen academaidd. Gyda’u profiad personol a’u sgiliau academaidd, rydym wedi creu awyrgylch o feddwl beirniadol ynghylch y dadleuon mwyaf

“Mae wedi bod yn bleser eu haddysgu nhw. Maent wedi bod yn fyfyrwyr bywiog gydag agwedd bositif am ddyfodol eu gwlad a’u pobl o’r diwrnod cyntaf iddynt gyrraedd o Wcráin neu pan oeddynt yn cymryd rhan oddi yno’n rhithwir.  Bydd eu syniadau am fod yng Nghymru i ddysgu, i ennill gwybodaeth a datblygu offer y byddant yn gallu eu defnyddio i ailadeiladu a gweithredu’r newidiadau y bydd eu hangen i greu gwell Wcráin pan fyddant yn dychwelyd i’w gwlad, ar gof a chadw gen i am byth.

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Llambed a Chaerfyrddin Y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch iawn o allu cefnogi Anastasiia a Valeriia. Drwy ddarparu hafan diogel ac amgylchedd dysgu cefnogol ac ysgogol iddynt yn Llambed, ein gobaith yw y gwelir y ddwy yn datblygu’n arweinwyr effeithiol yn y dyfodol. Ry’ ni’n falch eu bod wedi ymgartefu gyda ni a bod cymunedau’r campws a thref Llambed yn ehangach wedi bod mor gefnogol a chroesawgar iddyn nhw.”

Mi fydd y ddwy yn dathlu’r Nadolig gyda’i ffrindiau yn Llambed eleni, ac mae nhw’n gobeithio uno traddodiadau Cymru a’r Wcráin o gwmpas y bwrdd tra’n meddwl am eu hanwyliaid nôl adref.

I Anastasiia: “Dyw’r Nadolig eleni ddim mor hudolus ag arfer. Mae fy nghariad ar faes y gad fel Meddyg. Rwy’n gobeithio y bydd modd i nhw fedru dod at ei gilydd am bryd o fwyd ar Ddydd Nadolig er mwyn iddyn nhw gael ychydig o ysbryd yr ŵyl.”

Ychwanegodd Valeriia: Mae’r Nadolig yn wahanol eleni. Mae bobl yr Wcráin yn fobl cryf, ac mi fydda nhw’n dathlu’r Nadolig beth bynnag, ond eleni mi fyddant yn dathlu gyda blas o golled chwerw, a chipolwg o obaith ar gyfer y dyfodol.”

“Ein prif bryd bwyd ar gyfer y Nadolig fel arfer yw Kutya – uwd melys wedi ei wneud allan o wenith neu reis a ffrwythau sych. Ni fel arfer yn dechrau ein dathliadau Nadolig drwy fwyta hwn, ac yna mae 12 math o fwydydd gwahanol yn ymddangos ar y bwrdd er mwyn nodi 12 diwrnod o’r Nadolig. Fel arfer rydyn ni’n gosod ewin garlleg ar bob cornel o’r bwrdd i’n hamddiffyn rhag ysbrydion drwg.  Gobeithio eleni y byddwn ni’n gallu cyflwyno ein traddodiadau i’n ffrindiau yn Llambed!”