Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei daucanmlwyddiant

Dechreuodd stori addysg uwch yng Nghymru 200 mlynedd yn ôl gyda gweledigaeth a sicrwydd na allai Cymru ffynnu – yn ysbrydol, yn ddiwylliannol nac yn economaidd – heb addysgu ei phobl a chreu sefydliad ffurfiol i wasanaethu Cymru.

gan Lowri Thomas

Cyflawnodd Thomas Burgess, Esgob Tyddewi ar y pryd, yr hyn yr oedd eraill wedi ceisio ei wneud ers canrifoedd cyn hynny. Daeth rhoddion o bell ac agos i sylfaenu’r sefydliad addysg uwch cyntaf yng Nghymru gyda llawer yn cyfrannu at y gost, gan gynnwys y Brenin Siôr IV.

Gosodwyd carreg Sylfaen Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan ar y deuddegfed o Awst 1822; croesawyd y myfyrwyr cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 1827 a derbyniodd ei Siarter Brenhinol yn 1828. Dyma sefydliad dyfarnu graddau hynaf Cymru.

Ers dau gan mlynedd, mae ein sector addysg uwch wedi gwasanaethu Cymru’n dda ac wedi bod yn allweddol yn sefydlu enw da’r wlad fel economi fodern sy’n nodedig am ei hysbryd mentrus a chreadigol.

Fel angorau a stiwardiaid economaidd a diwylliannol eu cymunedau, mae prifysgolion wedi helpu i ffurfio’r genedl, gan wella cyfleoedd bywyd unigolion, manteisio ar wybodaeth, creu cyfleoedd ac ymateb i anghenion cymdeithasol ac economaidd yr oes.

Crëwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd, mewn ymateb i anghenion o’r fath mewn cymunedau gwledig a bröydd trefol.

Mae gan y Brifysgol hanes nodedig:

  • Sefydlwyd y coleg hyfforddi athrawon cyntaf yng Nghymru yng Nghaerfyrddin yn 1848;
  • Sefydlwyd y Coleg Celf cyntaf yn Abertawe yn 1853,
  • Sefydlwyd y coleg hyfforddi athrawon cyntaf i fenywod yn Abertawe yn 1872,
  • Sefydlwyd Prifysgol Cymru yn 1893 gan bobl Cymru i hyrwyddo a dathlu ein hiaith, ein treftadaeth a’n diwylliant hynod; a
  • sefydlwyd y coleg technegol yn Abertawe yn 1895.

O’r hadau a heuwyd yn Llanbedr Pont Steffan dros ddwy ganrif yn ôl, mae’r Brifysgol wedi tyfu’n Brifysgol aml-gampws, sector deuol sy’n darparu cwricwlwm dwyieithog sy’n berthnasol yn alwedigaethol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, DL: “Wrth i ni nodi ein daucanmlwyddiant, rydym ni’n dathlu sefydlu addysg uwch yng Nghymru a rôl Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn y stori honno. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd hanesyddol dwy ganrif o ddilyniant mewn cyfleoedd addysg uwch i Gymru. Wrth i brifysgolion a cholegau addasu a thrawsnewid eu hunain, mae dinasyddion Cymru wedi cael cyfleoedd dysgu gydol oes yn barhaus.

 “Gwelodd yr Esgob Thomas Burgess a sylfaenwyr Llanbedr Pont Steffan yr angen i rymuso ysgolheigion Cymru drwy ddarparu addysg prifysgol. Eu ffocws oedd hyfforddi Cymry i ddod yn offeiriaid Anglicanaidd; y rhai a fyddai’n arweinwyr ysbrydol yn eu cymunedau.

Mae gan gampws Llambed enw da sylweddol yn rhyngwladol mewn meysydd ysgolheigaidd allweddol ac yn benodol fel canolfan ar gyfer addysg aml-ffydd ac amlddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi gorfod newid ac esblygu i ymateb i heriau a chyfleoedd newydd yma yng Nghymru a thu hwnt”.

“Erbyn heddiw, mae’n rhan annatod o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol sector deuol sy’n darparu llwybrau dilyniant o lefel mynediad hyd at astudiaethau doethurol. Mae’r conffederasiwn hwn o sefydliadau wedi eu gwneud yn gryfach ac yn fwy gwydn i gyflawni dros Gymru”.

Gyda champysau ar draws de a chanolbarth Cymru a Sefydliad ar gyfer Dysgu Dinesig yn cefnogi dysgu gydol oes ledled y Deyrnas Unedig, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn adnabyddus am ddysgu cymhwysol a hyfforddiant sgiliau gyda chefnogaeth arloesi, menter, creadigrwydd ac ymrwymiad i gynaladwyedd.

Mae campysau’r Brifysgol yn gweithredu fel canolbwyntiau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol strategol, sy’n hwyluso cyflawni ei chenhadaeth ddinesig. Dros y ddwy ganrif ddiwethaf mae’r Brifysgol wedi esblygu, gan drawsnewid ei harlwy academaidd, cyfoethogi cyfleoedd dysgu a mynediad at addysg uwch er mwyn ymateb i anghenion cymdeithasol ac economaidd yr oes. Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda’i chymunedau ar lawr gwlad i gynnig cyfleoedd trawsnewidiol, gan feithrin eu gallu, eu gwydnwch a chreu cyfleoedd i atgyfnerthu eu hymdeimlad o le a’u harbenigrwydd.

Y weledigaeth yw bod yn Brifysgol i Gymru gydag ymrwymiad i lesiant a threftadaeth y genedl yn greiddiol iddi. Mae ganddi genhadaeth genedlaethol i gryfhau gallu Cymru i arloesi drwy addysg dechnegol uwch, ymchwil trosiadol, datblygu gweithlu dwyieithog a hyfforddiant ac addysg dan arweiniad cyflogwyr. Mae’r pwyslais ar effaith a mynd i’r afael â heriau pwysicaf cymdeithas, gan weithio mewn partneriaeth gyda’r llywodraeth a chyflogwyr i sicrhau’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr a graddedigion i ffynnu a gwneud gwahaniaeth.

Ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru’n ad-drefnu’r system addysg drydyddol, mae Grŵp Y Drindod Dewi Sant mewn sefyllfa dda i gyflawni ei amcanion. Mae’r conffederasiwn hwn o sefydliadau’n darparu gallu ychwanegol i ymateb i anghenion cyflogwyr am sgiliau technegol uwch drwy brentisiaethau gradd, micro-gymwysterau, dysgu cyfunol yn seiliedig ar waith a rhaglenni gradd dwy flynedd. Bydd mentrau o’r fath yn cefnogi cynllun adferiad economaidd Llywodraeth Cymru ac yn ei galluogi i ddatblygu ei hamcan polisi i greu system addysg ôl-orfodol fwy cydlynol yng Nghymru.

I  Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r daith yn parhau wrth i’r Brifysgol ddal ati i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau’r rheini mae’n eu gwasanaethu.

Mae hon yn Brifysgol newydd i Gymru.