Prosiect ‘Cynefin’ disgyblion campws hŷn Ysgol Bro Pedr

Disgyblion blwyddyn 7 yn creu cardiau cymeriadau yn seiliedig ar arwyr lleol.

gan Llinos Jones

Cafodd grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 7 y fraint o fod yn rhan o ddylunio ‘cardiau cymeriad’ ar gyfer prosiect ‘Cynefin’ fel rhan o baratoadau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd rhai aelodau o 7 Pedr y cyfle i fynychu gweithdy arbennig a chynhwysfawr gan gwmni CISP multimedia, lle rhoddwyd cyfarwyddiadau ar gyfer prosiect unigryw i Lambed.

Eu her oedd creu 6 cherdyn cymeriad, yn seiliedig ar arwyr o’u hardal leol. Roedd yr arwyr yma yn cwmpasu ystod eang o feysydd, o Wyddoniaeth i Wleidyddiaeth.

Y gobaith yw bydd y cardiau yma yn cael eu harddangos ar safle’r Eisteddfod Genedlaethol, fel tystiolaeth o dalent a chreadigrwydd disgyblion Ysgol Bro Pedr.