Sion Philip a’r Hwrdd Du – prosiect Cynefin Ysgol Bro Pedr

Disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn cynllunio a chreu comig am hanesyn lleol

gan Llinos Jones

Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Bro Pedr yn cynllunio a chreu lluniau a chlip sain yn seiliedig ar hanes Sion Philip a’r Hwrdd Du fel rhan o brosiect Cynefin y Cardi.

Cawsant weithdy creadigol gwych gan gwmni CISP Multimedia er mwyn creu tudalen ar ffurf comig o’r stori ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dyma flas o’r stori a’r gwaith yn y lluniau a’r clip sain.