Protestio gwrth-Cofid ar Sgwâr Harford

Tyrfa sylweddol yn Llanbed yn atseinio damcaniaeth gydgynllwyniol o ran gwirionedd Cofid.

gan Ifan Meredith
A9733304-2C16-4D36-A0EA
A9733304-2C16-4D36-A0EA

Heddiw, gwelwyd tyrfa sylweddol ar Sgwâr Harford, Llanbed yn atseinio damcaniaeth gydgynllwyniol (Conspiracy Theory) o ran gwirionedd Cofid.

Roedd hefyd rai yng nghanol y dyrfa yn hyrwyddo’r hashnod ‘ProVaccination’. Er yr anghytuno rhwng y posteri, doedd dim anghytuno corfforol i’w weld yn y protestiad.

Roedd yr ysgrifen ar y posteri eraill yn cynnwys; ‘Honk for freedom’ a ‘no vaccine passports’.

Daw hyn ar y dydd lle mae cyfradd achosion yr ardal yn 13,466.0 i bob 100,000 o bobl gyda 1110 o achosion cyfredol yma.