Pryd caiff Llanbed fynd yn dref ‘clyfar’?

Ystyried gosod wi-fi am ddim i ymwelwyr tref Llanbed.

gan Ifan Meredith

Ers mis Chwefror, mae wedi dod i’r amlwg bod Cyngor Tref Llanbed wedi bod yn ystyried gosod wi-fi am ddim i ymwelwyr y dref. Ond, pryd gall Llanbed droi yn dref ‘clyfar?

Dyma’r camau hyd yn hyn yn ôl cofnodion Cyngor Tref Llanbed:

Ym mis Chwefror 2022, derbyniwyd ebost gan Kevin Harrington o Antur Cymru i ofyn am gyfarfod er mwyn trafod gosod yr offer. Yna, yng nghyfarfod mis Mawrth Cyngor Tref Llanbed, cafwyd cadarnhad bod y Maer bryd hynny, y Cyng. Selwyn Walters a’r Cyng. Rhys Bebb Jones wedi cwrdd â Kevin Harrington er mwyn asesu’r lleoliadau gorau ar gyfer y 5 pwynt mynediad ar gyfer yr offer. Teimlwyd y dylid eu gosod yn y mannau canlynol er mwyn derbyn y ddarpariaeth orau:

  1. Trysordy Lloyds
  2. Lambi’s
  3. Amgueddfa Llanbed
  4. Optegwyr Evans a Hughes
  5. Lois Designs

Mae dwy uned yn cael eu darparu am ddim gan Lywodraeth Cymru a chytunwyd mai ger Trysordy Lloyds a Lambi’s dylai’r rhain cael eu gosod gan ychwanegu unedau ar ôl hynny. O ran cost y pŵer, cytunwyd gan bawb oedd yn bresennol yn y cyfarfod byddai’r Cyngor yn talu £25 y flwyddyn i’r busnesau.

Fodd bynnag, ar ymweliad y Cyng. Rhys Bebb Jones â Nerys Lloyd o Drysordy Lloyds cyn cyfarfod mis Ebrill, nid oedd perchennog y safle yn barod i gael pwynt mynediad i’w osod ar ei eiddo ac felly byddai’r Cyng. Rhys Bebb Jones yn cysylltu â Chaffi Conti erbyn y cyfarfod nesaf.

Erbyn cyfarfod mis Mai, daeth i’r amlwg nad oedd perchnogion Lambi’s yn barod i osod y cyfarpar ar eu heiddo gan eu bod yn y broses o wneud gwaith atgyweirio mawr ar yr adeilad. Yn sgil hyn, byddai’r Cynghorydd yn cysylltu â Gwesty’r Castell. Cafwyd cwyn hefyd bod pobl ifanc yn ymgynnull tu allan Llyfrgell y dref er mwyn defnyddio’r Wi-Fi sydd am ddim yno.  Er mwyn goresgyn hyn yn y dref, byddant yn ystyried rhoi cyfyngder amser a data pan fydd y Wi-Fi ar gael. Roeddent yn dal i aros am ateb gan Gaffi Conti.

Yng nghyfarfod mis Mehefin, adroddwyd nôl o gyfarfod Un Llais Cymru a bod yna sawl tref a phentref yn awyddus i osod Wi-FI yn eu hardaloedd amrywiol. Yna, daw mis Gorffennaf lle cafwyd cadarnhad bod y busnesau canlynol wedi dangos diddordeb yn y cynllun: FUW, JH Roberts, Lois Design a’r Brifysgol wedi cytuno i osod y cyfarpar ar Adeilad Amgueddfa’r Dref. Ar ôl i Ŵyl Fwyd Llanbed cael ei chynnal, derbyniwyd ychydig o ymateb y gallai Wi-Fi achosi problemau iechyd i bobl. Roedd y Maer yn credu bod Wi-Fi yn cael ei ddefnyddio yn eang mewn trefi a phentrefi lleol ac felly y byddai hyn o fudd i Lanbed.

Yn dilyn yr holl drafodaethau dros y chwe mis diwethaf, a ydy Llanbed yn agosach at fod yn dref fwy ‘clyfar’? Mae’n amlwg I’r mater fod yn gyfnod ’sensitif’ ac mae’r Cyngor Tref yn gobeithio gwneud datganiad yn y dyfodol.

Yn ganolog i hyn byddai’r wefan fro leol, Clonc360 ac meddai Dylan Lewis ar ran Clonc360:

“”Byddai diwifr am ddim i bawb yn Llanbed yn rhoi mynediad haws i mwy o bobl i gyfryngau Clonc360 ac yn ein galluogi maes o law i ddatblygu ein darpariaeth ymhellach gan weithio ochr yn ochr â busnesau’r dref o bosib.”

Felly, prysured y dydd y cawn ddefnyddio wifi am ddim yng nganol y dref er mwyn hwyluso cyfathrebu a gweld ffyniant economaidd yn lleol.