Pwsh Pontsian

CFfI Pontsian yn dathlu 80 mlynedd eleni.

Cered Menter Iaith Ceredigion
gan Cered Menter Iaith Ceredigion
Pwsh-Pontsian

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian yn dathlu 80 mlynedd o fodolaeth eleni. Un o glybiau hynaf y Sir! Er mwyn dathlu’r garreg filltir bwysig hon, maent yn cynnal her ‘Pwsh Pontsian’ ar y 23ain o Ebrill 2022.

Byddant yn gwthio gwely o Landysul i Bontsian drwy’r pentrefi canlynol : Prengwyn, Pontsian, Maesymeillion, Postbach, Pisgah, Talgarreg, Bwlchyfadfa cyn gorffen yn Castell Howell.

Bydd yr her yn cychwyn o faes parcio parc Llandysul am 10yb ond gofynnir i bawb ymgasglu am 9:30yb.

Bydd holl elw’r her yn cael eu rhannu rhwng Uned Cemotherapi Glangwili, Apêl Wcráin a Cffi Pontsian.

Meddai Gwenyth Richards, Cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian:

“Mae’n galonogol iawn i weld CFfI Pontsian dal i fynd mor gryf ag erioed a hynny wedi 80 o flynyddoedd. Rwy wir yn edrych ymlaen at yr her er mwyn cael codi arian at elusennau mor bwysig yn ogystal â chael cymdeithasu gydag aelodau a ffrindiau’r clwb.”

Mae croeso i unrhywun ymuno gyda’r criw yn yr her, felly beth amdani?