Un o raddedigion Archaeoleg yn diolch i’r Drindod Dewi Sant am lunio ei dyfodol

Mae Llambed yn arbennig am fod myfyrwyr yn enw yn hytrach na rhif.

gan Lowri Thomas

Mae Saskia Judd wedi graddio mewn Archaeoleg o Gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Penderfynodd astudio Archaeoleg yn Llambed ar ôl mynychu penwythnos blasu ac roedd wrth ei bodd â bywiogrwydd y campws.

Meddai: “Mae Llanbedr Pont Steffan yn arbennig am fod myfyrwyr yn enw yn hytrach na rhif. Mae’r  rhan fwyaf o’r darlithwyr yn eich adnabod chi hyd yn oed os  nad ydyn nhw erioed wedi eich dysgu chi. Mae rhywun yno i chi bob amser pan fydd eu hangen arnoch boed hwnnw’n fyfyriwr neu’n ddarlithydd.”

Meddai Saskia i’w chwrs fod wrth ei bodd am ei fod yn hyblyg. Roedd hi hefyd wrth ei bodd â’r ffordd yr oedd y modylau’n  cael eu haddysgu, a chanfu ei bod yn fuddiol nad oedd unrhyw arholiadau, gan  fod ganddi ddyslecsia difrifol, ac roedd gallu canolbwyntio ar un pwnc yn anhygoel.

Mae campws Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn ganolog yn natblygiad Saskia. Meddai: “Mae wedi cynnig cymaint o gyfleoedd i mi na fyddai’r rhan fwyaf o brifysgolion eraill wedi gallu ei rhoi. Rwy wedi cael y fraint o fod yn Intern INSPIRE a fydd o fudd go iawn i’m rhagolygon swyddi yn y dyfodol ac roedd gallu cael cynifer o brofiadau unigryw wedi rhoi’r cyfle i mi ddarganfod ble rwyf am fynd yn fy mywyd.”

Roedd Saskia yn un o Interniaid INSPIRE (Y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter) am ddwy flynedd. Yn ystod y flwyddyn gyntaf canolbwyntiodd ar agwedd digwyddiadau ac ymgyrchoedd, ac yn ystod ei hail flwyddyn yn intern bu’n gweithio ar Brosiect Canolfan Tir Glas.

“Fe wnes i helpu gyda digwyddiadau a chwrdd â rhai pobl anhygoel a fydd yn gysylltiadau pwysig iawn ar gyfer fy nilyniant yn archeolegydd amgylcheddol,” meddai. “Mae wedi rhoi cymaint o brofiadau unigryw i mi ac roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn i’n teimlo y gallwn i hefyd roi yn ôl i’r gymuned a helpu i ddatblygu campws Llambed hyd yn oed os mai dim ond mewn ffyrdd bach oedd hynny. Mae wedi cadarnhau fy nghariad at yr amgylchedd a’r wybodaeth ei fod yn rhywbeth yr wyf am ei ddilyn yn y dyfodol.”

Gwnaeth Saskia yn fawr o fywyd prifysgol ar gampws Llanbedr Pont Steffan – o fod yn llysgennad myfyrwyr i rôl llywydd hefyd. Yn ystod ei chyfnod yn fyfyriwr, roedd hi hefyd  yn llywydd y cymdeithasau Pêl-rwyd a Chelfyddydau Perfformio.

“Doedd hi ddim yn hawdd cynnal y gymdeithas pêl-rwyd yn ystod Covid ond drwy ymrwymiad yr aelodau llwyddodd y clwb i oroesi a bu 21/22 yn flwyddyn wych gyda  niferoedd uchel iawn o bobl yn ymuno. Mae wedi dysgu sgiliau pwysig i mi am arweinyddiaeth ond hefyd am waith tîm.

“Doedd dim un diwrnod llesg na diflas ac roedd yr her yn fy nghadw i ar fy nhraed yn barhaus. Pe bai’n rhaid i mi wneud y cyfan eto, fyddwn i ddim yn newid dim.”

Yn ystod ei chyfnod yn Llambed, mae Saskia wedi canmol y staff am eu cefnogaeth barhaus.

“Roedden nhw bob amser yn e-bost i ffwrdd, a doedden nhw byth yn meddwl bod unrhyw gwestiwn neu ymholiad yn wirion. Rwy’n pryderu am waith ac roedd y darlithwyr bob amser yno i’m helpu a gwneud i mi deimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu. Nid wyf yn credu y byddwn wedi gallu cwblhau fy ngradd i’r lefel a wneuthum oni bai am y gefnogaeth barhaus a  roddodd fy narlithwyr i mi.”

Wrth i Saskia raddio, dyma oedd ei chyngor ar gyfer myfyrwyr y dyfodol:

“Ewch amdani a manteisio ar gymaint o gyfleoedd ag y gallwch chi. Mae’r tair blynedd hyn mor bwysig ac mae cymaint o bethau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw. Mae fy mhrofiadau yn Y Drindod Dewi Sant wedi llunio fy nyfodol a gallen nhw lunio eich dyfodol chithau hefyd os bwriwch chi iddi. Ond hefyd, yn bwysicaf oll, gweithiwch yn galed wrth i chi gael hwyl!”