Safon y gwartheg yn arbennig ym Mart Llanybydder unwaith eto

Trêd gwych gyda dros 400 o dda stôr yn cael eu gwerthu.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd dros 400 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd arbennig o dda unwaith eto. Mae safon y stoc sydd yn dod drwy Mart Llanybydder wastad yn wych ac roedd Dydd Sadwrn yn ddim gwahanol.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1740 o eiddo Jenkins, Tanfforddgou a werthodd yr aner orau am £1510 o eiddo Williams, Cwmhwplin. Pris cyfartalog yr eidonau oedd £1036 a’r pris cyfartalog am aneirod oedd £998.

Yr 9fed o Ebrill fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofrestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib. Bydd gwobrau ar gyfer y prisiau uchaf yn y farchnad honno.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.