Sara Gof, Saz, Sazi y Posh Poodle

Sara Wyn Jones o Gwmann sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
2718E78B-6994-429F-9F5C

Mae rhifyn mis Mai Papur Bro Clonc yn y siopau lleol erbyn hyn a Chynorthwyydd Cyfathrebu Digidol Tai Barcud sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau y tro hwn.

Mae gan Sara Wyn Jones o Gwmann sawl llysenw fel Sara Gof, Saz a Sazi a phetai hi’n anifail, dywed y byddai’n “Posh Poodle achos bo fi’n girly.”

Dyma flas o’i hymatebion eraill:

Beth yw dy arbenigedd?

Siopa a gwario arian.

Beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden?

Rwy’n mwynhau rhedeg, cerdded neu fynd i’r gampfa.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?

Graddio o Brifysgol Met Caerdydd gyda Gradd Cyntaf.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd.

Pan gefais nai a nith.

Beth fyddet ti’n achub petai’r tŷ’n llosgi’n ulw?

Dillad.

Os am ddysgu mwy am Sara, cofiwch brynu copi o Clonc sydd ar gael hefyd ar y we dim ond i chi danysgrifio.