Y sioc o glywed am farwolaeth Hag

Bu farw’r Cynghorydd Hag Harris yn sydyn heddiw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
544919E1-E586-4F36-8BF3

Llun: @ElinCeredigion

Mae tref Llanbed yn fud heddiw wedi i’w thrigiolion glywed am farwolaeth sydyn y Cynghorydd Hag Harris bore ’ma yn 66 oed.

Yn gyn Faer tref Llanbed ar sawl achlysur, roedd yn un o gynghorwyr mwyaf profiadol cyngor y dref ac yn gynghorydd sir ar Lanbed ers blynyddoedd maith.

Cofia llawer o bobl ef yn golchi ffenestri fel gawedigaeth a bu’n rhedeg siop recordiau ail law adnabyddus yn Stryd y Bont wedi hynny.

Dywedodd Maer y Dref Y Cynghorydd Helen Thomas

“Mae’n dristwch i ni fel cyngor tref i glywed am farwolaeth y cynghorydd Hag Harris. Fel cynghorydd, cynghorydd sir a ffrind i lawer yn Llanbedr Pont Steffan bydd colled fawr ar ei ôl. Estynnwn ein calonnau at Eiry a’r teulu ar yr amser trist hwn.”

Daeth yn wreiddiol o ardal Coventry ac fel myfyriwr daearyddiaeth ym Mhrifysgol Dewi Sant Llanbed fe syrthiodd mewn cariad â’r ardal hon a dysgu Cymraeg yn llwyddiannus.

Treuliodd ei oes yn gwasanaethu’r dref a’i phobl.  Roedd yn aelod selog o’r Blaid Lafur a bu’n gadeirydd ar Gyngor Ceredigion.

Dywedodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion,

Diwrnod trist ofnadwy heddiw yn Llambed, wrth i ni glywed am farwolaeth y Cynghorydd Hag Harris.  Roedd Hag yn adnabyddus i bawb, yn bresenoldeb parhaol yn y dref, a phob tro’n barod ei gymwynas. Gwasanaethodd Llambed fel Cynghorydd Tref a Sir am ddegawdau, gan wneud cyfraniad sylweddol i holl fudiadau a digwyddiadau’r dref.

Roedd ganddo ddiddordebau eang ac yn eu plith oedd rhedeg gyda Chlwb Sarn Helen.

Roedd yn gefnogol dros ben i bopeth yn Llanbed a braf oedd ei gyfarfod am sgwrs ar strydoedd y dref.  Roedd ganddo amser i bawb.

Mae John Phillips, cyn brif weithredwr Dyfed yn sôn am Hag yn ei gyfrol ‘Agor Cloriau’ ac yn dweud ei fod yn allweddol o ran cefnogaeth i bolisi iaith y sir yn ystod y cyfnod cythryblus ar ddechrau’r nawdegau.

Mae dwy sedd gyhoeddus bellach yn wag a fydd yn anodd iawn eu llenwi.  Dim ond un Hag oedd o ran enw, ond roedd ei gyfraniad yn niferus iawn.

Bu farw ei wraig Jan rhai blynyddoedd yn ôl ac mae’n gadael tri mab Joe, Tomos a Daniel a’u teuluoedd, ei ddyweddi Eiry, teulu a chyfeillion niferus.

Ymatebodd Joe drwy ddweud

“Roedd e’n dad gwych i Dan, Tom, a fi. Treulion ni flynyddoedd yn creu atgofion anhygoel yn y mynyddoedd, y goedwig, ar ochr (y canol i Hag) caeau pêl-droed, ac yn y tŷ fel teulu. Teithiais i nôl i Lambed heddiw ar ôl clywed y newyddion, ac rwy’n teimlo’n falch iawn am y negeseuon calonogol mae’r gymuned yn anfon i ni fel teulu. Diolch oddi wrthon ni i gyd.”

Danfonnir cydymdeimlad i’w deulu annwyl a phawb a oedd yn ei adnabod sy’n teimlo’r golled o glywed y newyddion heddiw.