Sioe ac Arwerthiant Nadolig gwartheg stôr Llanybydder

Safon y gwartheg gwerth eu gweld

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Er gwaetha’r tywydd rhewllyd Ddydd Sadwrn a wnaeth atal rhai gyrraedd y mart, roedd dros 230 o wartheg yn bresennol ac roedd y safon yn uchel iawn a’r gwartheg gwerth eu gweld.

Roedd y prisiau uchaf fel a ganlyn:

Eidon gorau – £2080 o eiddo Jenkins, Caerodyn

Aner orau – £1940 o eiddo Jenkins, Caerodyn

Buwch orau – £1260 o eiddo Rees, Cefngwyddil

Canlyniadau’r sioe:

Eidon 1af – Jenkins Caerodyn

Aner 1af – Jenkins Caerodyn

Adran CFfI 1af – Lewis, Gwarcoed Einon

Show potential 1af – Davies, Gwelyrhaul

Diolch i’r cigydd Arwyn Morgans o Lanfair Ym Muallt am ddod i feirniadu.

Y 14eg o Ionawr fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofrestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith drwy’r flwyddyn.

Fel cwmni hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb!