Ergyd arall i Stryd Fawr Llanbed

Siom i newyddion o gau banc arall yn Llanbed.

gan Ifan Meredith

Cyhoeddodd cwmni bancio ‘Lloyd’s’ y byddant yn cau cangen Llanbed ar y 15fed o Fai 2023. Daw hyn wedi i fanc ‘Barclays’  adael Sgwâr Harfod ym mis Awst.

edrych ar y ffordd mae’n cwsmeriaid yn defnyddio’n canghennau”

Mae cwsmeriaid wedi bod yn gyflym i wneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol:

“Fel cwsmer Lloyds Bank fy hun, mae hyn yn newyddion drwg i Lanbed a’r ardal o gwmpas”

“wedi penderfynu gorfodi cymdeithas heb arian parod”

“sori i’ch hysbysebu y byddwn yn cau cangen Llanbed ar y 15fed o Fai 2023”

Yn y flwyddyn hyd at 2021, wnaeth Lloyds Banc elw o £6 biliwn ac mae 23 miliwn o bobl yn bancio gyda nhw ar draws eu cadwyn.

“cydnabod eich bod yn defnyddio’n cangen yn aml”

“Ar un adeg roedd gennym 4 banc llewyrchus yn Llambed ond un fydd ar ôl. Mae hyn yn effaith andwyol eto ar fusnesau a phobl Llambed a dyw llawer o’n trigolion ddim ar lein. Bydd nifer eto yn colli’u swyddi.”- Y Cyng. Ann Morgan.