Siom o weld goleuadau wedi eu rhwygo yn Llanybydder

Darganfod goleuadau’r bandstand ar y llawr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
E49130F0-6825-4759-84AF
BF665C30-2214-4B19-9D53

Mynegodd y Cynghorydd Denise Owen ei siom o ddarganfod goleuadau’r Bandstand yn Llanybydder wedi eu rhwygo i’r llawr heddiw.

“Siomedig a dweud y lleiaf!” dywedodd Y Cynghorydd Owen,  “Ceisio paratoi popeth ar gyfer cynnau’r goleuadau yn y Ffair Nadolig i ddarganfod bod y goleuadau ar y bandstand wedi cael eu rhwygo i ffwrdd gan rywun.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Owen, “Rydyn ni’n bentref bach.  Mae pawb yn gwybod bod arian yn dynn ac yn mynd i waethygu, ond rydyn ni’n ymdrechu’n galed i wneud i bethau edrych yn dda.  Mae gweithredoedd fel hyn yn bwrw’r stwffin mas ohonoch chi.  Gobeithio bod y troseddwyr yn teimlo’n falch o’u gwaith!!!”

Goleuadau LED oedden nhw o amgylch y bandstand yn ei oleuo gyda’r nos. Ni fyddant yn cael eu cyfnewid am rai newydd oherwydd y perygl i’r un peth ddigwydd eto.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth gallan nhw gysylltu â’r Cynghorydd Owen neu gysylltu’n syth â Thaclo’r Tacle yn ddienw.

Bydd cynnau goleuadau’r pentref a goleuadau’r goeden Nadolig yn Llanybydder yn digwydd ddydd Sadwrn 3ydd Rhagfyr tua 4.45yp. Bydd marchnad yno o 3.00yp, canu carolau am 4.30yp ac yna’r goleuadau. Bydd diddanwr plant, groto Siôn Corn yn ogystal ag alpacas yno gyda’r cyfan am ddim i blant, gan gynnwys bwyd.