Torri record arall ym Mart Llanybydder ddoe

Adroddiad Mart 13eg o Awst.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Torrwyd record arall ym mart Llanybydder ddoe yn yr adran da stôr wrth i eidon o eiddo Jenkins, Brohedydd werthu am £1,890. Roedd y prisiau eraill fel y ganlyn..

Aner orau – £1,770 hefyd o eiddo Jenkins, Brohedydd

Tarw gorau £2,400 o eiddo Vasami, Rhydgoch

Buwch orau – £1,430 o eiddo Davies, Henbant

Buwch a llo gorau – £1,950 o eiddo RDG Farming, Coedlline

Er bod llai o borfa o gwmpas oherwydd y tywydd poeth, roedd dal galw da am wartheg, yn enwedig y gwartheg mwyaf.

Y 10fed o Fedi fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofrestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.