Tractor Dai Dolau mewn rhaglen newydd ar BBC Three

Morgan George yn cystadlu gyda’r David Brown 1694 ar “The Fast and the Farmer-ish”

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dai a’i dractor ar glos Dolaugwyrddion.

Dai a’i dractor ar glos Dolaugwyrddion.

Morgan a fu’n helpu gyda Dai yn Nolaugwyrddion.

Fis Gorffennaf y llynedd aeth tractor gorau Dai Williams o Bentre Bach ar goll am wythnos.  Buodd ar wyliau ym Melfast, Gogledd Iwerddon yn cystadlu mewn rhaglen yn rhan o gyfres newydd “The Fast and the Farmer-ish” ar BBC Three.

Dyma un o sioeau blaenllaw newydd BBC Three. Gwelir dau dîm o dri ffermwr ifanc o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ym mhob pennod yn rhoi eu hoff dractorau trwy heriau amrywiol i benderfynu pwy yw’r cerbyd gorau.

Cyflwynir y gyfres gan ffermwr adnabyddus a phersonoliaeth cyfryngau cymdeithasol, Tom Pemberton. Tro Cymru yw hi ym mhennod 3 gyda thîm ‘The West Wales Cowboys’ a ‘The Chipmunks’ yn llosgi rwber a brwydro am le yn y rownd gynderfynol.

Gyrrwr tractor Dai Dolau oedd Morgan George a oedd yn rhan o dîm y Chipmunks.  Mae Morgan yn gyn ddisgybl o Ysgol Bro Pedr a oedd yn helpu Dai yn Nolaugwyrddion ar y pryd.  Mae e nawr yn gweithio ar fferm odro yng Nghaerlŷr.

 

Gwyliwch sut daeth hen dractor David Brown 1694 gyriant pedair olwyn 35 oed o Bentre Bach ymlaen yn erbyn y tractorau mawr modern nos Fercher am ddeg o’r gloch ar BBC Three neu o flaen llaw ar BBC iplayer.

Hoffai Dai ychwanegu nad yw’r tractor ar werth!