A waniff Urdd Gobaith Cymru dorri dau record byd ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant?

Mae ysgolion yr ardal gan gynnwys Bro Pedr, Dyffryn Cledlyn a’r Dderi i gyd yn cymryd rhan heddiw.

gan Ifan Meredith
IMG_5778

Llun o un o ymgeisiadau sector cynradd Bro Pedr.

IMG_5779

Llun o un o ymgeisiadau arall sector cynradd Bro Pedr

Screenshot-2022-01-24-at-20.28.30

Criw Clwb Cymraeg uwchradd Bro Pedr yn mwynhau canu i ‘Hei Mistar Urdd’

Can mlynedd nôl i’r flwyddyn, sefydlwyd mudiad Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards i amddiffyn y Gymraeg am fod plant yn ‘anghofio mai Cymry ydynt’ ac erbyn heddiw, mae wedi tyfu i fod yn un o fudiadau pobl ifanc mwyaf Cymru.

Mae dechrau’r dathlu yn cael ei ddynodi gyda parti am 10:30 sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar Facebook a YouTube yn ogystal â chael i ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Yn ystod y dydd hefyd, mi fydd yr Urdd yn ymgeisio i dorri ddau record byd;

  • Y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i’w huwchlwytho i Facebook o fewn un awr (y record ar hyn o bryd yw 418)
  • Y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i’w huwchlwytho i Twitter o fewn un awr (y record ar hyn o bryd yw 250)

I dorri’r recordiau yma, mae 869 o ysgolion a 308 o deuluoedd, unigolion, sefydliadau a busnesau wedi cofrestru i recordio’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ a’i gyhoeddi ar eu gwefannau cymdeithasol rhng 10:45 a 11:45 bore ‘ma.

Mae ysgolion yr ardal gan gynnwys Bro Pedr, Dyffryn Cledlyn a’r Dderi i gyd yn cymryd rhan ac felly bydd gwerth i chi gael cip olwg ar eu gwefannau cymdeithasol yn ystod y dydd neu gweld pob fideo o dan yr hashnod YmgaisRecordBydYrUrdd.

Yna, am 13:30, mi fydd modd i ail-fynychu’r parti i ddarganfod os yw’r Urdd wedi torri’r recordiau byd.

Ar ddechrau blwyddyn yn llawn o ddathlu i’r Urdd, os gennych chi atgof neu brofiad o fod ynghlwm â’r Urdd a hoffech ei rannu? Oes oes yna, gwnewch sylw islaw.